Morglawdd Hafren: Athro Prifysgol Cymru'n trafod effeithiau posibl

Wedi ei bostio ar 5 Tachwedd 2012
SImon-Barage

Yr Athro Simon Haslett yn ymgymryd ag ymchwil maes ym mwd Aber Afon Hafren

Y penwythnos diwethaf, roedd yr Athro Simon Haslett i’w glywed ar raglen BBC Radio Wales ‘Eye on Wales’ yn trafod effeithiau posibl codi Morglawdd Hafren.

Honnir mai ystod llanw Aber Hafren yw’r ail uchaf yn y byd, yn 15 m (45tr). Gyda chymaint o ddŵr yn llifo i mewn ac allan o’r Aber ddwywaith y dydd, mae ceryntau’r llanw yn bwerus dros ben a does dim rhyfedd fod ffyrdd o harneisio’r ynni hwn wedi bod yn cael eu hystyried ers dros ganrif.

Mae Simon Haslett, Athro Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Cymru, wedi bod yn ymgymryd ag ymchwil yn Aber Hafren a lefelau arfordirol yr ardal ers 20 mlynedd, ac mae wedi cyhoeddi nifer o bapurau ac annerch cynadleddau rhyngwladol ar Aber Hafren.

Yn 2008, ail-agorodd Llywodraeth y DU y ddadl ar godi Morglawdd Hafren, ac mewn cyd-ddigwyddiad wythnos yn ddiweddarach roedd yr Athro Haslett yn cyflwyno ei ymchwil yng Ngholocwiwm Cymdeithas Geowyddoniaeth yr Iwerydd yn  Nova Scotia, Canada.

Ar ddiwedd ei ddarlith adroddodd ar y penderfyniad i ailagor y drafodaeth ar Forglawdd Hafren a chafodd lu o gwestiynau gan gynrychiolwyr ynglŷn â pham roedd trafodaeth o’r fath yn digwydd o gwbl. Casgliad y gynhadledd oedd y byddai’n well i Lywodraeth y DU beidio ag ystyried opsiwn morglawdd o gwbl, ond edrych ar drefniadau eraill ar gyfer cipio ynni’r llanw.

O’r modelau cychwynnol, roedd effeithiau amgylcheddol posibl yn gysylltiedig â chodi morglawdd Hafren yn cynnwys codiad o tua 3m i fyny’r llif yn lefel y môr. Roedd ymchwil yn awgrymu y gallai hyn arwain at lesteirio draenio yn nalgylch Hafren, efallai ddegau o gilometrau o’r arfordir, a allai godi’r tabl dŵr, cynyddu dirlenwi’r pridd, a gwaethygu llifogydd yn lleol. Mae effeithiau lleol posibl eraill yn cynnwys colli cynefinoedd rhynglanwol, siltio, cuddio archaeoleg rhynglanwol a newid yn nosbarthiad llifogydd arfordirol.

Gallwch wrando eto ar yr Athro Simon Haslett yn trafod yr effeithiau posibl ac am ei waith ymchwil ar y wefan iPlayer y BBC yma.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau