Wedi ei bostio ar 22 Mawrth 2011

Yr Athro Marc Clement
Dyweododd yr Athro Marc Clement heddiw (22.3.2011 – 15.00 o’r gloch):
Mae Prifysgol Cymru yn croesawu adroddiad McCormick ac yn hynod o falch ei bod yn ymddangos bod cyfeiriad cyffredin i’r farn am ddyfodol addysg uwch yng Nghymru.
Ar ôl cael cyfle i ystyried yr adroddiad yn llawn, rydym ni’n falch o’n canfod ein hunain yn cyd-fynd â John McCormick a’i gydweithwyr wrth i ni i gyd gydnabod bod cyd-destun addysg uwch yng Nghymru a’r byd wedi newid yn radical.
Ar ôl treulio peth amser yn adolygu ein hopsiynau, penderfynodd Cyngor Prifysgol Cymru ar 11 Chwefror i gychwyn ar drawsnewidiad strategol mawr drwy uno â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Fetropolitan Abertawe ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd.
Bydd yr uniad hwn yn creu un Brifysgol unedol, a allai gynnwys Prifysgolion eraill hefyd pe baent yn teimlo ei fod yn iawn iddynt hwythau.
Ein hamcan, i ddefnyddio geiriau adolygiad McCormick, yw creu sefydliad sengl cwbl integredig sydd ag un genhadaeth neilltuol sy’n gwella profiad myfyrwyr, yn cryfhau gweithgarwch academaidd ac yn adeiladu statws byd-eang Cymru.
Rydym ni felly yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’n holl gydweithwyr mewn addysg uwch yng Nghymru i gyflenwi newid radical sy’n diwallu anghenion ein cenedl yn yr 21ain ganrif.
/DIWEDD
Ymholiadau y wasg i steve.freshwater@freshwater-uk.com; neu 07730 307743