Wedi ei bostio ar 7 Medi 2010

(h) Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd
Dangosodd arolwg newydd diweddar o’r deyrnas gyfan bod myfyrwyr yn un o Sefydliadau Cynghrair Prifysgol Cymru yn ysgubol o hapus gydag ansawdd eu profiad o brifysgol.
Llamodd Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (APCC) i fyny’r tabl sy’n dangos sut y cafodd prifysgolion eu mesur gan eu myfyrwyr yn Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (NSS) 2010 a dyma’r brifysgol newydd sydd nawr ar y brig yng Nghymru o ran bodlonrwydd myfyrwyr.
Mae’r arolwg blynyddol yn holi myfyrwyr o bob prifysgol yn y DU, gan gasglu adborth mewn meysydd megis addysgu; asesu ac adborth; cefnogaeth academaidd; trefniadaeth a rheolaeth; adnoddau dysgu a datblygiad personol.
Mae perfformiad cryf APCC eleni wedi gweld y brifysgol yn ennill y raddfa gynnydd gyflymaf yng Nghymru ochr yn ochr â sgorau bodlonrwydd drwyddi draw; adlewyrchiad o’i hymrwymiad i gynnig y profiad gorau posibl i fyfyrwyr.
Dywedodd Claire-Louise Rafferty, Llywydd Undeb Myfyrwyr APCC:
"Mae canlyniadau rhagorol NSS yn adlewyrchu ymrwymiad y brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i roi i’n myfyrwyr y lefel uchaf o brofiad academaidd a bywyd myfyriwr. Mae’r gefnogaeth a’r berthynas adeiladol sydd rhyngom â’r Ysgolion Academaidd unigol a thîm rheoli hŷn y brifysgol wedi sicrhau bod ein strwythur cynrychiolaeth, ynghyd â gwaith ein Cynrychiolwyr Ysgol, wedi cyfrannu at lwyddiant y canlyniadau hyn."
/Diwedd
Mae Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (APCC) yn rhan o Gynghrair Prifysgol Cymru sy’n cynnwys Prifysgol Cymru; Prifysgol Glyndŵr; Prifysgol Fetropolitan Abertawe; Prifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae Cynghrair Prifysgol Cymru’n anelu at gyfoethogi a gwella Addysg Uwch yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth am APCC: http://www.uwic.ac.uk/
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch at: www.cymru.ac.uk
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru, os,gwelwch yn dda: t.barrett@cymru.ac.uk