Wedi ei bostio ar 27 Mai 2011

Aelodau o'r Sefydliad Mecaneg Lifol an-Newtonaidd Prifysgol Cymru
Pentref Portmeirion oedd y lleoliad ar gyfer Cyfarfod Gwyddonol 20fed Pen-blwydd Sefydliad Mecaneg Lifol an-Newtonaidd Prifysgol Cymru (UWINNFM), a gynhaliwyd ar 18-20 Ebrill 2011.
Mynychwyd y gynhadledd gan chwedeg pedwar cynrychiolydd o 15 o wledydd gwahanol a chlywsant gyflwyniadau gan 28 o siaradwyr.
Roedd y trefnwyr yn arbennig o falch bod y Barwn Marcel Crochet – sydd â Gradd er Anrhydedd o Brifysgol Cymru – a’r Athro Anthony Pearson yn gallu cyfarch y cynrychiolwyr. Siaradodd y ddau ohonynt yng nghyfarfod agoriadol y Sefydliad yn 1991. Arweiniodd y Barwn Crochet drafodaeth ar “Arloesedd”, a siaradodd yr Athro Pearson am “Swyddogaeth Rheoleg yn y Gwyddorau Naturiol a Pheirianegol”.
Peter Townsend, un o aelodau gwreiddiol y Sefydliad a chyn Ddirprwy Is-Ganghellor (Gweinyddu) Prifysgol Cymru, Abertawe bryd hynny, oedd y siaradwr yn ystod y cinio nos Lun. Diddanodd yr Athro Townsend y gwesteion gyda golwg ar hanes y Sefydliad. Roedd yr Athro Marc Clement, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, wrth ei fodd ei fod yn gallu bod yn rhan o ddathliad y Sefydliad a rhannu ei lwyddiannau nodedig, gan dynnu sylw at allu’r gynhadledd i ddod â chasgliad mor drawiadol a hynod o wyddonwyr talentog at ei gilydd mewn un man.
Roedd yr Athro Ken Walters, Cadeirydd y Sefydliad, hefyd yn bresennol yn y gynhadledd. Yn ogystal â bod yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol mae hefyd yn un o gymrodyr sefydlu ‘r gymdeithas newydd, Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Dywedodd yr Athro Walters wrth ddatgan ei falchder yn yr ymateb i Gynhadledd 2011:
“Mae’r Cyfarfod 20fed Pen-blwydd wedi bod yn arbennig o lwyddiannus ac, wrth gwrs, mae lleoliad bendigedig Portmeirion a thywydd gwych mis Ebrill wedi gwneud y gynhadledd hon yn arbennig o gofiadwy.”
Ar ôl hynny, traddodwyd Darlith Wobrwyo Flynyddol Cymdeithas Rheoleg Prydain (BSR) gan yr Athro Joao Maia, Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Case Western Reserve ; dilynwyd hyn gan Anerchiad Llywydd y BSR a draddodwyd gan Dr Oliver Harlen o Brifysgol Leeds.
Yr Athro Jeffrey A Giacomin, Is-Lywydd Y Gymdeithas Reoleg, Cadeirydd y Ganolfan Ymchwil Rheoleg a Llywydd Peirianneg Fecanyddol ym Mhrifysgol Wisconsin, oedd y siaradwr yn ystod cinio’r gynhadledd ar y nos Fawrth.
Mae UWINNFM yn cynnig amgylchedd aml-ddisgyblaeth ar gyfer bodloni her problemau rheolegol cyfoes mewn diwydiant. Mae’n dwyn ynghyd arbenigedd mewn rheoleg arbrofol a damcaniaethol, yn cynnwys y technegau diweddaraf ar gyfer nodweddu ymddygiad mecanyddol defnyddiau drwy fesuriadau rheolegol .
Am fwy o wybodaeth:
Am wybodaeth i’r cyfryngau ynglŷn â Phrifysgol Cymru, cysylltwch â Tomas Llewellyn Barrett yn y Swyddfa Gyfathrebu: t.barrett@cymru.ac.uk