"Mae'n rhaid i'n myfyrwyr gorau dysgu sut i ddysgu" - Enillydd Gwobr Nobel, Syr Martin Evans

Wedi ei bostio ar 16 Mawrth 2011
SirMartinEvansweb1

Professor Sir Martin Evans

Neithiwr traddodwyd Darlith Arloesi gyntaf Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru yng Nghastell Caerdydd gan yr Enillydd Gwobr Nobel, Syr Martin Evans. (Darllenwch yma erthygl ynglyn a'r darlith yn y Western Mail)

Roedd y ddarlith yn canolbwyntio ar waith diflino Syr Martin ym maes biowyddorau gan bwysleisio eu heffaith ar ein bywydau bob dydd. 

Roedd 80 o bobl yno  yn cynnwys cynrychiolwyr o gwmnïau biowyddoniaeth, academyddion, ffigurau amlwg o’r sector iechyd cyhoeddus ynghyd ag Ysgolheigion Arloesi Tywysog Cymru (POWIS). Mae POWIS yn rhaglen £12 miliwn, sydd yn cael ei ariannu trwy Gronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd, y sector breifat a Phrifysgol Cymru, ac mae’n anelu at gyflogi 100 o ysgolheigion talentog i gynorthwyo cwmniau arloesol Cymreig i ddatblygu cynhyrchion , prosesau a gwasanaethau newydd.

Amcan y ddarlith, a drefnwyd gan Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru,  yw dod ag ysgolheigion POWIS ac arweinwyr ym meysydd arloesi at ei gilydd i rannu ymarfer gorau a dysgu gan wyddonydd nodedig, sydd yn ystod ei yrfa wedi casglu nifer fawr o wobrau yn cydnabod ei wasanaeth i ymchwil bon-gelloedd.

Syr Martin hefyd yw cyd-sylfaenydd Cell Therapy, cwmni biowyddonol Cymreig sy’n cydweithio’n glos â menter POWIS.

Gan siarad yn y ddarlith, dywedodd Cyfarwyddwr Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru, yr Athro Dylan Jones-Evans;

“Drwy ddatblygu rhaglenni fel POWIS, mae Prifysgol Cymru yn annog mwy o arloesi ar draws Cymru. Rydym ni’n arbennig o falch fod Syr Martin wedi cytuno i draddodi’r gyntaf yn y gyfres hon o ddarlithoedd arloesi a fydd yn ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o wyddonwyr, peirianwyr a, gobeithio, enillwyr Gwobr Nobel a fydd wedi eu lleoli yng Nghymru.”

Ychwanegodd Syr Martin Evans;

“Mae’n bwysig peidio â dysgu myfyrwyr sut i ddysgu yn unig, ond i ddysgu sut i grwydro y tu allan i’r blychau rydym ni’n tueddu i’w gosod nhw ynddynt.”

/Diwedd

Os na fu’n bosibl i chi ddod i ddarlith eleni, mae modd i unrhyw un sydd â diddordeb weld recordiad ohoni yn fuan drwy wefan yr Academi Fyd-Eang sydd newydd ei lansio (www.academifyd-eang.org.uk).

I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Fyd-Eang, ebostiwch: academi.fyd-eang@cymru.ac.uk | neu ewch i: www.academifyd-eang.org.uk

 

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â’r Swyddog Cyfathrebu, Tomas Llewelyn Barrett t.barrett@cymru.ac.uk| 02920 376 937.  

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau