Wedi ei bostio ar 20 Gorffennaf 2011

Teitl newydd: Foster on EU Law
Y mis hwn fe welir cyhoeddi argraffiad newydd o lyfr ar hanfodion Cyfraith yr UE, gan Ddeon yng Nghyfadran Prifysgol Cymru.
Mae’r argraffiad diweddaraf o lyfr yr Athro Nigel Foster ‘Foster on EU Law’ yn rhoi cyflwyniad hygyrch a syml i Gyfraith yr UE; mae’n fan cychwyn delfrydol i’r pwnc ac nid oes cyfaddawdu o ran dyfnder y dadansoddiad.
Mae’r llyfr wedi ei ddatblygu’n ofalus i sicrhau bod y testun wedi ei deilwra at gyrsiau israddedig yng Nghyfraith yr UE, sy’n golygu ei fod yn werslyfr delfrydol i fyfyrwyr.
Er mwyn i’r penodau fod yn hygyrch a hawdd eu defnyddio, mae pob un yn cynnwys cyflwyniad, penawdau eglur ac awgrymiadau ar gyfer darllen pellach, ac yn darparu platfform ar gyfer astudiaeth bellach ar yr un pryd.
Mae’r llyfr yn hollol gyfoes ac mae’n cynnwys newidiadau diweddar a ddaeth i fodolaeth yn sgil Cytundeb Lisbon a strwythurau a dynameg cyfreithiol newydd sy’n effeithio ar Gyfraith yr UE yn dilyn cadarnhau’r Cytundeb.
Dyma oedd gan yr Athro Foster i’w ddweud am argraffiad ei lyfr newydd:
“Dyma’r olaf o’m pedwar llyfr ar Gyfraith yr UE i gael ei ddiweddaru, yn dilyn cyflwyno Cytundeb Lisbon ac roedd yn gallu ystyried y newidiadau wedi i Gytundebau UE ac FEU ddod i rym. Wn i ddim a fyddaf yn cyrraedd 100 teitl - dyna gwestiwn mawr ac anodd ei ateb. Cawn weld!”
Yr Athro Nigel Foster yw Deon Busnes a’r Gyfraith Cyfadran Prifysgol Cymru. Cyn hynny, ef oedd Athro Cyfraith Ewropeaidd a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Buckingham a chyn hynny roedd yn Athro Jean Monnet Cyfraith Ewropeaidd yn Ysgol y Gyfraith, Caerdydd.
Mae cyhoeddi’r llyfr yn garreg filltir i’r Athro Foster gan mai dyma’r 50fed argraffiad o lyfr i gael ei gyhoeddi yn ei enw. Yn ystod ei yrfa o dros 20 mlynedd mae wedi ysgrifennu saith llyfr yn ymwneud â’r gyfraith.
/Gorffen
Am fwy o wybodaeth ar Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@wales.ac.uk