Wedi ei bostio ar 26 Mai 2011

James Shaddick - myfyriwr PC Casnewydd
Mae Dr Gary Pritchard o Brifysgol Cymru wedi creu dull arloesol o weithio sy’n hwyluso myfyrwyr sydd ag anawsterau dysgu cymhleth i ‘siarad’ eu hymchwil yn lle ei ysgrifennu.
Gan weithio ochr yn ochr â’r Partner Cynghrair, Prifysgol Cymru Casnewydd, mae Dr Pritchard wedi bod yn helpu myfyrwyr BA Ffilm Ddogfen i gyflwyno eu traethodau academaidd terfynol ar lafar ac yn weledol, ac ar yr un pryd sicrhau’r trylwyredd academaidd angenrheidiol.
Un o’r myfyrwyr a fu’n cymryd rhan yn yr arbrawf oedd y gwneuthurwr ffilm James Shaddick, sydd wedi brwydro gydol ei fywyd â’i ystod bersonol o heriau dysgu, gan gynnwys awtistiaeth. Gydag arweiniad a chefnogaeth Dr Pritchard, penderfynodd mai ei gyflwr fyddai prif bwnc ei draethawd estynedig.
“Roedd yn daith ryfeddol - drwy blymio’n ddwfn i’r materion yr oeddwn i cyn hyn yn eu hystyried yn ‘broblemau’ llwyddais i gael dealltwriaeth newydd o’r hyn yw awtistiaeth a materion cysylltiedig,” meddai James. “Mewn sawl ffordd roedd y profiad yn fodd i newid fy mywyd ac fe wnes i ailddyfeisio’r ffordd yr oeddwn i’n gweld awtistiaeth - o rywbeth oedd yn codi cywilydd i fod yn cŵl.”
Mae James bellach yn bwriadu defnyddio ei hyder newydd i geisio sefydlu gyrfa yn y cyfryngau.
Gan siarad am y prosiect, dywedodd Dr Pritchard;
“Roedd gweld myfyrwyr fel James yn symud o ofni ymchwil academaidd at ffynnu yn rhoi boddhad mawr i mi. Roedd yn fraint cael gweithio gyda’r cyw wneuthurwyr ffilm talentog hyn ac yn enwedig cael helpu’r myfyrwyr i gyfathrebu eu syniadau mewn ffordd oedd yn pwysleisio eu cryfderau yn hytrach na chreu mwy fyth o rwystrau iddyn nhw eu goresgyn.”
Mae Dr Pritchard yn aelod o Ysgol y Celfyddydau a’r Dyniaethau yng Nghyfadran Prifysgol Cymru, ac yn ogystal â gyrfa yn y byd academaidd mae wedi dal sawl rôl yn y cyfryngau teledu a phrint fel awdur, newyddiadurwr, sgriptiwr a gwneuthurwr ffilm.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Chyfadran newydd Prifysgol Cymru, cliciwch ar: http://www.wales.ac.uk/cy/Faculty/FacultyHome.aspx
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk