Wedi ei bostio ar 12 Medi 2011

Blackstone's EU Treaties (22nd edition) a olygwyd gan yr Athro Nigel Foster
Mae Blackstone's EU Treaties and Legislation 2011-2012, a olygwyd gan yr Athro Nigel Foster o Brifysgol Cymru ac sydd bellach ar ei ail rifyn ar hugain, yn ganllaw astudio i fyfyrwyr israddedig yn y Gyfraith.
Mae’r llyfr - trydydd yr Athro Foster ers iddo ymgymryd â’i rôl o fewn y Brifysgol - yn cynnig ymdriniaeth ddigymar o gyfraith yr UE yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth ddiweddaraf sy’n berthnasol i raddau israddedig yn y gyfraith. Mae hefyd yn cynnwys deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth heb nodiadau, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio’r llyfr fel defnydd gwreiddiol mewn arholiadau.
Hefyd ceir Canolfan Adnoddau Ar-lein i ategu’r testun, sy’n darparu diweddariadau, dolenni i wefannau, deddfwriaeth ychwanegol, map rhyngweithiol o Ewrop gyda data allweddol i aelod wladwriaethau, a llinell amser ryngweithiol yn olrhain digwyddiadau allweddol yn hanes yr UE.
Yr Athro Foster yw Deon Busnes a’r Gyfraith Prifysgol Cymru ac mae’n Athro Ymweliadol ar Gyfraith Ewrop yn Europa-Institut, Universität des Saarlandes, Saarbrücken, yr Almaen.
Cyn hynny bu’n Athro Jean Monnet ar Gyfraith Ewrop ac yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Buckingham. Ymysg ei gyhoeddiadau i OUP mae Foster on EU Law; EU Law Directions; Q&A on EU Law; a German Legal System and Laws.
Daw Blackstone's EU Treaties (22nd edition) â chyfanswm y llyfrau a gyhoeddwyd yn enw’r Athro Foster i 51.
/Gorffen
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â Phrifysgol Cymru, ewch i: www.cymru.ac.uk
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk