Mererid Hopwood a moddion i'r meddwl

Wedi ei bostio ar 2 Awst 2011
mereridhopwood

‘Moddion i’r Meddwl: cerddi all wella clwyfau’.

Mawrth 2 Awst am 3.45 - Bydd y bardd Mererid Hopwood, y ferch gyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol, yn trafod ‘Moddion i’r Meddwl: cerddi all wella clwyfau’.

Yn wreiddiol o Gaerdydd, graddiodd Mererid gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Sbaeneg ac Almaeneg o Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae’n ddarlithydd mewn Almaeneg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe, ac ers 2002 mae hefyd yn diwtor Ysgrifennu Creadigol yn yr Adran Gymraeg.

Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2001. Yn 2003 enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, ac yn 2008 enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod am ei llyfr O Ran. Mae hefyd wedi cyflwyno ar S4C.

/Diwedd

/Diwedd 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori