Dewch i ddysgu am Guto'r Glyn y rhyfelwr o fardd Cymreig

Wedi ei bostio ar 7 Mai 2010
GlynyGroesAPO

Abaty Glyn y Groes, Llangollen

Caiff Guto’r Glyn ei ystyried yn eang fel un o feirdd mwyaf blaenllaw oes aur barddoniaeth Gymraeg - y cyfnod rhwng diwedd gwrthryfel Owain Glyndŵr yn negawdau cyntaf y bymthegfed ganrif a’r Ddeddf Uno ym 1536.

Yn ran hanfodol o lafar gwlad Cymru, gallwch ddysgu mwy am Guto trwy ymweld â'r Pafiliwn Rhyngwladol Brenhinol yn Llangollen ar ddydd Sadwrn, Mai 22, lle bydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn trefnu fforwm undydd arbennig yn dathlu bywyd a gwaith y cymeriad unigryw hwn.

Dechreuodd prosiect Guto'r Glyn yn 2008, yn dilyn dyfarnu grant sylweddol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), ac mae wedi caniatáu i dîm o ymchwilwyr yn y Ganolfan gynnal ailwerthusiad eang o dreftadaeth lenyddol helaeth Guto.

Un o’r rhai a roddodd nawdd i Guto drwy lawer o’i fywyd proffesiynol, gan ariannu ei ddoddordeb ysol ei hun mewn geiriau, oedd y Cymro nodedig Syr William Herbert o Raglan yng Ngwent. Ag yntau’n gyfaill clos i deulu Syr Wiliam, byddai Guto’n treulio amser yn ei gartref yn rheolaidd yn adrodd barddoniaeth ac yn canu. Pan laddwyd Syr William ym Mrwydr Banbury ym 1469, canodd Guto - oedd yn gefnogwr pybyr i’r achos Iorcaidd - farwnad iddo yn yr angladd. Yn ffodus iawn, ceir cofnod ysgrifenedig o’r gerdd, sydd bellach yn ddogfen hanesyddol werthfawr am ei bod yn olrhain hynt a helynt gwleidyddiaeth Cymru yn ystod Rhyfel y Rhosynnau.

Cymeriad blaenllaw arall i gomisiynu cerddi mawl gan Guto oedd y Brenin Edward IV. Yn ogystal â theithio yn eang drwy’r wlad yn ennill canmoliaeth a nawdd gan uchelwyr ac eglwyswyr, gwasanaethodd Guto'r Glyn hefyd fel saethwr yn ymgyrch byddin Lloegr yn Ffrainc yn ystod rhan olaf Rhyfel y Can Mlynedd.

Treuliodd Guto ei flynyddoedd olaf yn westai lleyg yn abaty Sistersiaidd Glyn y Groes (Valle Crucis), ger Llangollen. Er ei fod yn ddall ac yn fyddar, mae’r cerddi a ysgrifennodd yn ystod y cyfnod hwn ymysg y cerddi mwyaf pwerus yn yr iaith Gymraeg. Ar ddiwedd y fforwm ceir cyfle i ymweld â’r abaty ei hun, sydd heb os yn dal i ysbrydoli beirdd sy’n dymuno dilyn yn ôl troed Guto.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i fynychu'r fforwm yw'r 14 Mai. Mae'r ffi cofrestru yn cynnwys coffi yn y bore, cinio, a mynediad i Abaty Glyn y Groes yn £25 (heb ginio: £16.50).

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

I gael rhagor o wybodaeth am y Fforwm cysylltwch ag Angharad Elias, Swyddog Gweinyddol, Y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, SY23 3HH  (01970 636543).a.elias@cymru.ac.uk

Neu i gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Uwchefrydiau, ewch: http://www.wales.ac.uk/cy/YGanolfanGeltaidd/CyflwyniadGanolfan.aspx

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk  02920 376991

Yn



 

 

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori