Wedi ei bostio ar 20 Ebrill 2011
Cynhaliwyd yr ail Dderbyniad Alumni a Rhwydweithio yng Ngwesty'r Leela Palace Kempinksi yn Bangalore, India Ddydd Sadwrn 19 Mawrth, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Daeth dros 130 o aelodau cymdeithas alumni Prifysgol Cymru at ei gilydd, wedi teithio o bob rhan o Dde India i fod yn bresennol. Cawson nhw gyfle gwych i gymdeithasu gyda chyd-alumni a rhwydweithio gyda chynrychiolwyr addysg, busnes a diwydiant.
Croesawyd pawb gan Rebecca Fairbairn, Dirprwy Bennaeth y Genhadaeth yn yr Uchel Gomisiwn Brydeinig, a'r Prif Siaradwr oedd Dr Peter Noyes, Cadeirydd Consortiwm Rhyngwladol Cymru ac Is-Ganghellor Prifysgol Cymru Casnewydd.
Cyn y digwyddiad, dywedodd Dr Noyes:
"Rydyn ni'n hynod falch o'n cyn-fyfyrwyr o India a'r gwaith maen nhw'n ei wneud yn troi India yn un o economïau cryf newydd y byd. Mae'r alumni hyn hefyd wrth galon y gwaith o ddatblygu'r berthynas rhwng Cymru ac India”.
Cyfrannodd Gwesty'r Leela Palace ginio godidog. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ennill gwobrau yn cynnwys chwisgi Penderyn o Gymru a chrys rygbi Cymru, wedi ei arwyddo gan y tîm Cymreig. Roedd pawb yn frwd dros gael eu cynnwys mewn lluniau "Tîm Cymru" gafodd eu tynnu yn ystod y noson.
Dywedodd Om Jain, un o alumni Prifysgol Cymru, ac un a enillodd wobr yn y gystadleuaeth:
“Roedd bod yn y digwyddiad hwn yn gyfle gwych ac roeddwn i wrth fy modd yn ennill copi o "Coastline Wales” sy'n sôn am Gymru. Byddaf yn cofio am brydferthwch Cymru tra byddaf byw. Rydw i'n hynod falch o fod yn un o alumni Prifysgol Cymru, gan fod y gymdeithas yn cysylltu pobl â'i gilydd, a hefyd yn hybu'r berthynas rhwng ein gwledydd”.
Roedd yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn ac yn gyfle ardderchog i bawb oedd yno. Dywedodd Virginia West, Cyfarwyddwr Consortiwm Rhyngwladol Cymru:
"Roedd gweld cynifer o alumni o brifysgolion Cymru yn dod at ei gilydd yn y derbyniad yn hyfryd. Roedd yn bwysig iawn o ran cwrdd â phobl o fyd busnes, ac roedd e'n llawer o hwyl hefyd. Roedden ni i gyd yn siomedig pan ddaeth y noson i ben tua chanol nos".
/Diwedd
I gael mwy o wybodaeth am Gymdeithas Alumni Prifysgol Cymru ewch i www.wales.ac.uk/alumni
Os ydych chi'n un o alumni Prifysgol Cymru ac yn awyddus i ymaelodi â'r Gymdeithas rhowch eich manylion i ni drwy gofrestru nawr.
I gael mwy o wybodaeth am Gonsortiwm Rhyngwladol Cymru, ewch i www.walesinternationalconsortium.com