Teyrnged i Hywel Teifi Edwards 1934-2010

Wedi ei bostio ar 6 Ionawr 2010
Hywel Teifi Edwards
’Roedden yn drist iawn i glywed am farwolaeth yr awdur a’r hanesydd nodedig, yr Athro Hywel Teifi Edwards, yn 75 oed ar Ddydd Llun, Ionawr 4 2009. Bu farw yn Ysbyty Tŷ Bryngwyn yn Llanelli yn dilyn salwch byr.

Wedi ei eni a’i fagu yn Llanddewi Aberarth, Ceredigion, astudiodd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth cyn dechrau ar ei yrfa academaidd disglair fel Athro yn Adran Gymraeg Prifysgol Cymru Abertawe. 'Roedd yn ŵr gradd er anrhydedd Prifysgol Cymru yn arbenigo mewn hanes y 19 ganfrif a’r Eisteddfod Genedlaethol yn arbennig.

Yn gynghorydd i hen sir Dyfed, safodd yr Athro Edwards ddwywaith fel ymgeisydd llywodraethol dros Blaid Cymru ac ymgeisiodd yn ddiflino dros yr iaith Gymraeg.

Yn talu teyrnged i Hywel Teifi Edwards, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Marc Clement:

“Mae Prifysgol Cymru yn falch i gyfri Hywel Teifi ymhlith ei raddedigion ac hefyd ar ei restr o raddedigion er anrhydedd. Byddwn yn gweld ei eisiau nid yn unig fel cydweithiwr academaidd uchel ei barch ond hefyd fel cyfaill da i’r Brifysgol.”

Mae ein cydymdeimlad gyda’i deulu a’i ffrindiau dros y cyfnod anodd hwn.
Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori