Wedi ei bostio ar 13 Awst 2018

Heather Williams
Mewn seremoni yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2018, cyhoeddwyd mai Heather Williams yw enillydd y gystadleuaeth i ysgrifennu dwy erthygl addas ar gyfer cylchgrawn Y Casglwr.
Anfonodd Dr Williams ddwy erthygl sy’n trafod Cymru o safbwynt Ewropeaidd i’r gystadleuaeth.
Mae un yn trafod llyfr arfaethedig Henri Martin ar Iolo Morganwg, cynllun a ddaeth â’r hanesydd Ffrangeg draw i Gymru i wneud ymchwil yn yr 1860au; ond ni lwyddodd i orffen ei lyfr. Mae’r llall yn adrodd hanes taith diplomat o Ffrainc, Coquebert de Montbret, oedd ar ei ffordd i Ddulyn yn 1789. Cedwir y llyfrau Cymraeg a Chymreig a brynodd yn ystod ei ymweliad yn Rouen hyd heddiw.
Mae Heather Williams yn gymrawd ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac mae’r erthyglau hyn yn deillio o’i gwaith ar brosiect ‘Teithwyr Ewropeaidd i Gymru: 1750-2010’ (manylion pellach yma http://etw.bangor.ac.uk/cy/node/599 ) a gyllidwyd gan yr AHRC. Cyhoeddir yr erthyglau yn Y Casglwr maes o law.