Daeareg Brynbuga - Darlith Gyhoeddus

Wedi ei bostio ar 12 Tachwedd 2012
Usk Fossil

Mae creigiau Brynbuga yn ne-ddwyrain Cymru yn enwog am fod yn llawn ffosiliau a’r mis hwn byddant yn destun darlith gyhoeddus a llyfryn newydd gan Athro o Brifysgol Cymru.

Magwyd yr Athro Simon Haslett, sy’n Gymrawd Cymdeithas Ddaearegol Llundain a Dirprwy Is-Ganghellor Cyswllt Prifysgol Cymru, ym Mrynbuga ac fe’i hysbrydolwyd i ddewis gyrfa yn rhannol gan y creigiau sy’n amgylchynu’r dref yng nghanol Sir Fynwy.

Fel myfyriwr, ymgymerodd â llawer o brosiectau ar greigiau Brynbuga a daeth yn gyfarwydd â’r ffosiliau. Ers hynny fodd bynnag mae ei ymchwil academaidd wedi canolbwyntio’n bennaf ar dirweddau arfordirol ac mae bellach yn adnabyddus am ei ddamcaniaeth fod llif a gafwyd ym Môr Hafren ym 1607 wedi’i achosi o bosibl gan tsunami, ac mae wedi ymddangos ar nifer o raglenni'r BBC.

Y mis hwn, bydd yr Athro Haslett yn dychwelyd at ei wreiddiau a bydd yn traddodi darlith gyhoeddus i'r elusen ‘Hope and Homes for Children’ ar Geology of Usk, a bydd hefyd yn cyhoeddi Usk Fossils, llyfryn canllaw â darluniau i ffosiliau Brynbuga.

Wrth sôn am y ddarlith arfaethedig, dywedodd yr Athro Haslett “Mae wedi bod yn hwyl mynd yn ôl i ailddysgu gwaith roeddwn i wedi anghofio am ddaeareg Brynbuga, ond unwaith i mi fynd ati roeddwn i’n ei gofio’n glir. Gobeithio y bydd y gynulleidfa yn y ddarlith a darllenwyr y llyfryn yn meddwl ei fod yn ddiddorol hefyd.”

Mae hanes daearegol Brynbuga yn cynnwys creigiau clasurol megis y rhai sy’n dyddio o’r Cyfnod Silwraidd gyda’i fôr trofannol bas yn gyforiog o fywyd, yr Hen Dywodfaen Coch ac, yn fwy diweddar, gwaddodion a osodwyd gan rewlifoedd yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.

Gan gyfeirio at bwysigrwydd y creigiau a’r ffosiliau ym Mrynbuga, esboniodd yr Athro Haslett “Mae’n bosibl fod ffosiliau Brynbuga wedi chwarae rhan bwysig mewn damcaniaeth wyddonol. Ganwyd Alfred Russell Wallace, a ddatblygodd damcaniaeth esblygiad ochr yn ochr â Charles Darwin, ym Mrynbuga ym 1823. Mae’r creigiau y tu ôl i’w gartref yn llawn ffosiliau, ac er bod ei deulu wedi symud i ffwrdd pan oedd yn bump oed, mae’n hynod debygol iddo weld y ffosiliau pan oedd yn blentyn. Mae'n wych meddwl y gallai ffosiliau Brynbuga fod wedi hau hedyn a ddylanwadodd yn ddiweddarach ar ei syniadau am esblygiad."

Cynhelir darlith gyhoeddus yr Athro Simon Haslett Geology of Usk yn y Sessions House, Brynbuga, Sir Fynwy nos Iau 15 Tachwedd 2012. Mae ei lyfryn, Usk Fossils ar gael o Amazon a siopau llyfrau da.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau