Athro PC yn cyfrannu at adroddiad ar ddysgu hyblyg

Wedi ei bostio ar 4 Gorffennaf 2014
Simon-Books

Yr Athro Simon Haslett

Ym mis Mehefin cyhoeddodd yr Academi Addysg Uwch adroddiad hir ddisgwyliedig gan yr Athro Ronald Barnett ar Conditions of flexibility: securing a more responsive higher education system.

Mae’r adroddiad yn benllanw prosiect yr Academi, Flexible pedagogies: preparing for the future sy’n cydnabod “o fewn cyd-destun addysg uwch yn gyffredinol, mae’r angen i ddatblygu ffyrdd newydd o ddysgu wedi dod yn gwestiwn byw, yn gysylltiedig yn bennaf â’r galw am hyblygrwydd cynyddol o ran pryd, ymhle a pha mor gyflym mae dysgwyr yn astudio”.

Bu’r Athro Simon Haslett, Is-Ganghellor Cyswllt Prifysgol Cymru, yn cyfrannu yng ngham olaf cyhoeddi’r adroddiad drwy dderbyn gwahoddiad i gyfrannu at seminar undydd ym mis Chwefror yn Woburn House yn Llundain a fu’n ystyried drafft o’r adroddiad, a thrafodaeth bwrdd crwn yn swyddfeydd papur newydd y Guardian ym mis Mehefin - Is flexible study the future for universities?

Mae adroddiad yr Athro Barnett yn benllanw prosiect yr Academi Flexible pedagogies: preparing for the future sy’n dod ag adroddiadau o bedair ffrwd ddysgu at ei gilydd: (1) Dysgwyr a dysgu rhan amser, (2) Cyswllt cyflogwyr, (3) Syniadau newydd am addysgeg a (4) Dysgu â chymorth technoleg (e-ddysgu).

Hefyd cyflwynodd yr Athro Barnett y brif araith yng Nghynhadledd Cyfeiriadau’r Dyfodol 2014 'Graddedigion byd-eang: Galluogi Dysgu Hyblyg' ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill ar y pwnc Calling Flexibility to Account: Pitfalls and Possibilities, oedd yn cynnwys rhagflas o’i adroddiad ac a sbardunodd drafodaethau eang ymhlith y gymuned academaidd yng Nghymru.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau