Fflur Dafydd yn trafod ynysoedd, llyfrgellwyr a locustiaid

Wedi ei bostio ar 1 Awst 2011
Fflurdafydd

Awdures Fflur Dafydd

Llun 1 Awst am 12.45pm – Bydd Catrin Beard yn cael cwmni Fflur Dafydd, nofelydd ac enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2009, cantores, cyfansoddwraig a cherddor. Bydd Fflur yn trafod ‘Ynysoedd, llyfrgellwyr a locustiaid – delweddau o Gymru’.

Daeth Fflur i’r amlwg pan enillodd y Fedal Lenyddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1999 tra’n fyfyriwr yn astudio Saesneg yn Aberystwyth, gwobr a arweiniodd at gyhoeddi ei chasgliad o storïau a cherddi - “Y Gwir Am Gelwydd” - a gafodd gryn glod gan y beirniaid, pan oedd hi’n 20 oed.

Ar ôl ennill MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol East Anglia, a PhD ar farddoniaeth R.S. Thomas o Brifysgol Cymru, parhaodd i weithio mewn sawl cyfrwng, yn ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, teledu a radio cyn canolbwyntio ar ryddiaith. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf “Lliwiau Liw Nos” (Y Lolfa) yn 2005 ac fe enillodd ei hail nofel “Atyniad” (Y Lolfa) y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2006. Cyhoeddodd ei nofel Saesneg gyntaf “Twenty Thousand Saints” (Alcemi) yn yr hydref 2008.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori