Wedi ei bostio ar 23 Awst 2010

Canolfan Dylan Thomas
Gallai Canolfan Dylan Thomas fyd-enwog gael ei thrawsnewid yn ganolfan yr 21ain ganrif ar gyfer diwylliant, diwydiannau creadigol, addysg a menter.
Mae Cyngor Abertawe am ymuno â Phrifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe mewn menter ar y cyd gyffrous a fydd yn manteisio i'r eithaf ar y lleoliad.
Yn ôl y cynlluniau, byddai arddangosfa a rhaglen lenyddol Dylan Thomas yn cael eu cadw yn ogystal â chyflwyno sawl nodwedd a gwasanaeth newydd yn y ganolfan.
Gallai rhai o'r nodweddion newydd gynnwys gwella'r arddangosfa bresennol gan ychwanegu deunydd esboniadol am ffigurau eiconig eraill sy'n gysylltiedig â Bae Abertawe.
Gallai'r ganolfan hefyd fod yn gartref i Wobr Dylan Thomas - gwobr lenyddiaeth fwyaf y byd ar gyfer awduron cyhoeddedig ifanc - yn ogystal â'r Wobr Sony Reader - gwobr newydd yn y DU a gefnogir gan Sony mewn partneriaeth â Gwobr Dylan Thomas a anelir at awduron ifanc nad ydynt wedi'u cyhoeddi.
Mae gofyn i Gabinet Cyngor Abertawe gytuno mewn egwyddor i Femorandwm o Ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe a byddent yn cytuno ar y manylion yn hwyrach eleni.
Ymhlith syniadau eraill a allai ddwyn ffrwyth mae mannau meithrin busnes dynodedig yng Nghanolfan Dylan Thomas ar gyfer diwylliannau creadigol.
Meddai’r Cyng. Graham Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hamdden a Thwristiaeth, "Dyma gynllun cyffrous a fyddai'n adeiladu ar lwyddiant Canolfan Dylan Thomas.
"Mae'r arddangosfa a'r ŵyl lenyddol yn brif atyniadau. Byddai'r fenter hon yn manteisio i'r eithaf ar yr hyn sydd gennym eisoes a byddai'n gosod sail arall i Brifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe yng Nghanol y Ddinas.
"Yn ogystal â chadw a gwella'r arddangosfa, gallai’r cynlluniau hefyd gynnwys lle ar gyfer diwylliannau blaengar, creadigol mewn cyfnod lle mae'n rhaid i ni gadw cynifer o raddedigion â phosib yn ardal Abertawe.
"Rydym wrth ein boddau i weithio mewn partneriaeth agos â Phrifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Bydd cytuno ar Femorandwm o Ddealltwriaeth mewn egwyddor yn golygu y gallwn arcgwilio syniadau ymhellach i greu canolfan 21 ganrif o ddiwylliant, academia a busnes yng Nghanolfan Dylan Thomas wrth arbed cannoedd o filoedd o bunnoedd i drethdalwyr Abertawe yn yr hir dymor."
Meddai'r Athro David Warner, Is-ganghellor Prifysgol Fetropolitan Abertawe, "Mae'r trafodaethau hyn yn rhai cynnar iawn ac mae llawer o waith i'w wneud gan Brifysgol Cymru a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe cyn gwneud penderfyniad.
"Heb amheuaeth, gallai'r cyfle hwn ein galluogi i wella ein presenoldeb yng nghanol y ddinas mewn adeilad hyfryd a fyddai'n fuddiol i fyfyrwyr yng Nghymru a phobl Abertawe fel ei gilydd.”
Meddai'r Athro Marc Clement, Prif Weithredwr ac Is-ganghellor Prifysgol Cymru, “Mae Prifysgol Cymru yn ystyried ei hun yn sefydliad Cymru gyfan ac mae wrth ei bodd i geisio datblygu'r rôl hon ymhellach mewn partneriaeth â Dinas Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.”
/Diwedd
Nodyn i olygyddion:
Mae Prifysgol Metropolitan Abertawe yn ran o Gynghrair Prifysgol Cymru sy’n cynnwys Prifysgol Cymru; Prifysgol Glyndwr; Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC); Prifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol newydd y Drindod Dewi Sant. Mae Cynghrair Prifysgol Cymru yn cydweithio i gyfoethogi ac i wella Addysg Uwch yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Swyddog Marchnata a Chyfathrebu Prifysgol Metropolitan Abertawe: Steven Stokes, 01792 483695 neu ebostiwch: pressoffice@smu.ac.uk
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i’n gwefan: www.cymru.ac.uk
Am wybodaeth i’r Wasg a’r Cyfryngau , cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrett@wales.ac.uk