Wedi ei bostio ar 2 Mehefin 2014

Siân Phillips a Dennis O'Neill
Ddydd Sadwrn 7 Mehefin, fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant ei eni, bydd ein partner uno Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant yn cynnal noson o gerddoriaeth a barddoniaeth wedi’i hysbrydoli gan Dylan Thomas a’i fywyd yn Abertawe.
Bydd Cyngerdd Gala Dylan Thomas yn cynnwys darlleniadau a pherfformiadau gan Siân Phillips, Dennis O'Neill, Côr Meibion Pontarddulais ac Academi Llais Ryngwladol Cymru.
Cynhelir y noson yn Eglwys St Mary's yn Abertawe, ac mae tocynnau bellach ar gael i’w prynu ar-lein neu o’r swyddfa docynnau.
I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i www.uwtsd.ac.uk/cy/newyddion-a-digwyddiadau/digwyddiadau/cyngerdd-gala-dylan-thomas.php