Canolfan Dylan Thomas yn cynnal digwyddiad Dechrau Busnes

Wedi ei bostio ar 16 Tachwedd 2015
StartUp Cymraeg

Ydych chi’n meddwl bod gennych chi’n gallu i lansio busnes mewn un penwythnos? Mae digwyddiad Dechrau Busnes Cymru, Penwythnos Dechrau Busnes Abertawe, yn dychwelyd am y drydedd flwyddyn yn olynol, gan gynnig cyfle i bobl wireddu eu syniad busnes.

Ddydd Gwener 20 Tachwedd, bydd Canolfan Dylan Thomas yn Abertawe yn croesawu cystadleuaeth dros benwythnos i ddarpar entrepreneuriaid rannu eu syniadau, ffurfio timau, arloesi gyda chynhyrchion a lansio busnesau newydd.

Cynhelir y digwyddiad eleni, fel arfer, ar ddiwedd Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang. Mae hyn yn golygu bod y timau a gaiff eu ffurfio dros y penwythnos yn cael cyfle i gyfarfod â phobl o’r un anian, ffurfio busnes newydd ac ennill gwobrau gwych, a hefyd yn cael cyfle i gystadlu yn y Frwydr Dechrau Busnes Fyd-eang, gan frwydro yn erbyn timau o dros 200 o ddinasoedd eraill ledled y byd i ennill coron y gystadleuaeth fawr i Fusnesau Newydd.

Roedd Penwythnos Dechrau Busnes Abertawe y llynedd yn fan cychwyn rhagorol i Emma Coles. Aeth ymlaen gyda’i llwyfan hysbysebu digidol Adlet i ennill cystadleuaeth y Frwydr Dechrau Busnes Fyd-eang.

Fel rhan o Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang, bydd Penwythnos Dechrau Busnes Abertawe yn croesawu dros 100 o ddatblygwyr, dylunwyr, marchnatwyr, rheolwyr cynnyrch a charedigion busnesau newydd i’r Ganolfan, i gystadlu am gyfle i ennill amrywiaeth o wobrau.

Yn ystod y digwyddiad, bydd y rhai sy’n bresennol yn cynnig eu syniad busnes i banel dyfarnu, gyda thimau’n ffurfio’n organig o gwmpas y cysyniadau mwyaf poblogaidd. Yna bydd cyfnod o 54 awr o greu model busnes, codio, dylunio a dilysu’r farchnad. Bydd pob tîm yn derbyn cymorth i ddatblygu eu syniadau gan nifer o entrepreneuriaid llwyddiannus, mentoriaid busnes a buddsoddwyr.

Penllanw’r gystadleuaeth fydd cyflwyniadau i arweinwyr entrepreneuraidd a phanel dyfarnu sy’n cynnwys Anna Bastek, prif weithredwr yr asiantaeth amlgyfrwng amlieithog VoiceBox yn Abertawe, y wraig fusnes Debra Williams, sydd wedi bod yn brif weithredwr Confused.com, David Hieatt, sylfaenydd y cwmni jîns Hiut Denim, a Dina Henry, prif swyddog masnachol cyfredol Charity Aid Foundation Bank.

Mae’r digwyddiad yn bosibl yn sgil cymorth gan bartneriaid cymunedol sy’n cynnwys Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Gŵyr Abertawe, Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth a phrynu tocyn ar gyfer digwyddiad eleni, ewch i: www.up.co/communities/uk/swansea/startup-weekend/6603

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau