Wedi ei bostio ar 23 Gorffennaf 2019

Geiradur Prifysgol Cymru
Ymunwch â Chyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst i wrando ar Andrew Hawke, Golygydd GPC yn cyflwyno Llywydd y Cyfeillion, y Prifardd a’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, a fydd yn sôn am dafodiaith a dywediadau Dyffryn Conwy.
Bydd Golygyddion Hŷn GPC hefyd yn annerch y Cyfeillion, gydag Angharad Fychan yn sôn am rai o’r geiriau newydd a gyhoeddwyd yn y Geiriadur yn ystod y 12 mis diwethaf, ac Ann Parry Owen yn sôn am eirfa ‘bysgodlyd’ John Jones Gellilyfdy. A ydych yn ceisio dyfalu beth yw ‘geirfa bysgodlyd’? Dewch draw i babell PCYDDS (stondin 321-324) erbyn 2 o’r gloch, brynhawn dydd Mercher, 7 Awst ac fe gewch wybod!
Bydd croeso cynnes i bawb – nid oes rhaid bod yn aelod o’r Cyfeillion, ond bydd cyfle i ymuno petaech yn dymuno gwneud.