Wedi ei bostio ar 26 Mai 2015
Bydd Canolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg (CCCA) yn cynnal cynhadledd, fis nesaf, sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu teuluoedd a chymunedau ag addysg.
Bydd y gynhadledd, a gynhelir yn stadiwm SWALEC ddydd Mawrth 16 Mehefin, yn dadansoddi datblygiadau polisi presennol, yn archwilio tystiolaeth o waith ymchwil ac yn clywed gan brif ymarferwyr. Disgwylir i’r digwyddiad ddod ag arweinwyr ysgol, llunwyr polisi, mudiadau gwirfoddol ac eraill sy’n gweithio ym maes ymgysylltu teuluoedd a chymunedau ledled Gymru at ei gilydd.
Bydd Gweinidog Cymru dros Addysg a Sgiliau, Huw Lewis AC, yn annerch y gynhadledd a bydd yn lansio canllawiau Llywodraeth Cymru i ysgolion ynghylch ymgysylltu teuluoedd a chymunedau. Daw’r canllawiau yn sgil argymhellion a gyflwynwyd yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i’r afael ag effaith tlodi ar addysg, ‘Ailysgrifennu’r Dyfodol’ – sef dogfen y mae ymgysylltu teuluoedd a chymunedau’n un o’i phrif flaenoriaethau.
Bydd yr Athro David Egan o CCCA ac Alan Dyson, Athro Addysg ym Mhrifysgol Manceinion, hefyd yn annerch y gynhadledd. Chris Waterman, Cyfarwyddwr Gweithredol Buddsoddwyr mewn Teuluoedd, fydd yn cadeirio’r digwyddiad.
Bydd cyfraniadau allweddol gan ysgolion a chymunedau arloesol, ac ystod o sesiynau gweithdy gan gynnwys: dulliau adferol, partneriaethau ysgol a chymuned, rôl gweithwyr ymgysylltu teulu, ymgysylltu effeithiol â rhieni, a bancio amser.
I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru ar gyfer y gynhadledd, anfonwch e-bost i wcee@pcydds.ac.uk neu ewch i www.pcydds.ac.uk/wcee.
Sefydlwyd CCCA gan Brifysgol Cymru Y Drindod Cymru a Phrifysgol Cymru. Mae’n arwydd o ymrwymiad y prifysgolion i ddatblygu polisi, ymchwil ymarferol ac ymarfer arloesol a fydd yn cyfrannu i wella tegwch oddi mewn i system addysg Cymru.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
I gael rhagor o wybodaeth neu i gyfweld cynrychiolydd o Ganolfan Cymru er Cydraddoldeb mewn Addysg, cysylltwch â Steven Stokes, Uwch Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus, ar 07872 423788 neu anfonwch e-bost at steven.stokes@sm.pcydds.ac.uk