Wedi ei bostio ar 25 Mai 2011

Sara Glithro - myfyriwr blwyddyn olaf
Roedd myfyrwyr Coleg Ciropracteg McTimoney ymhlith y ffodusion y dyfarnwyd Bwrsariaeth Dilysu Prifysgol Cymru iddynt ddiwedd 2010.
Mae nifer o’r dyfarniadau hyn ar gael bob blwyddyn gan y Brifysgol i fyfyrwyr ar gyrsiau gradd dilysedig mewn canolfannau cydweithredol. Diben y dyfarniadau yw talu’n llawn neu’n rhannol y ffioedd dysgu priodol ar gyfer astudiaethau’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Mae Coleg McTimoney yn rhedeg Cyrsiau Athro llawn amser pedair blynedd ac integredig pum mlynedd mewn Ciropracteg. Mae gan y myfyrwyr sy’n astudio ar y rhaglen bum mlynedd ymrwymiadau gwaith llawn amser ochr yn ochr â’u hastudiaethau llawn amser; felly mae cydbwyso teulu, gwaith ac astudio yn her ddiddiwedd.
Yma dywed y myfyrwyr sut mae ennill y fwrsariaeth wedi eu helpu:
Sara Glithro
Rwyf i’n fyfyriwr ciropracteg llawn amser ar fy mlwyddyn olaf yn dilyn y rhaglen MChiro yng Ngholeg McTimoney. Roedd ennill y fwrsariaeth hon gan Brifysgol Cymru yn newyddion rhagorol ac eisoes mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi. Am y pedair blynedd gyntaf roeddwn i’n astudio llawn amser ac yn gweithio llawn amser hefyd. Mae’r fwrsariaeth wedi rhoi’r rhyddid ariannol i mi leihau fy oriau gwaith i weithio rhan amser, gan ganiatáu i mi ganolbwyntio ar fy nghleifion, fy astudiaethau a fy nhraethawd ymchwil.
Jo Rule
Rwyf i’n byw gyda fy ngŵr a fy nhri phlentyn, sy’n chwech, pedair ac un oed. Er fy mod yn awyddus iawn i ymuno â’r cwrs a dechrau newid fy ngyrfa i wneud rhywbeth y gwyddwn i y byddai’n llawer mwy buddiol i mi na fy rôl gyfredol, roeddwn i’n poeni am effaith yr ymrwymiad ar fy nheulu.
Mae’r fwrsariaeth wedi caniatáu i mi leihau fy oriau gwaith a threulio amser gwerthfawr gyda fy mhlant heb orfod poeni o ble daw ffioedd cwrs y mis nesaf ac ar yr un pryd mae’n galluogi i mi ganolbwyntio ar fy astudiaethau.
Karen Philip
Mae ennill bwrsariaeth sy’n talu fy ffioedd yn beth rhyfeddol i ddigwydd yn fy mywyd, gan ei fod wedi codi baich ariannol anferthol. Gyda fy ffioedd wedi’u talu, mae bellach yn bosibl i mi brynu car ail law sydd ei angen arnaf yn fawr i gyrraedd y Coleg a buddsoddi mewn gliniadur newydd gan fod fy hen un bron â dod i ddiwedd ei oes. Ond mae’r fwrsariaeth hon yn dod â mi un cam yn nes at fedru newid ein bywydau.
Mary Young
Gan fy mod yng nghanol fy nhridegau mewn gyrfa sy’n hollol anghysylltiedig, mae’r amser a’r ymrwymiad ariannol wedi bod yn ystyriaeth ddifrifol, ond mae wedi bod yn daith werth chweil a nawr fy mod i ym mhedwaredd flwyddyn fy astudiaethau fe allaf i weld y golau ym mhen draw’r twnnel. Bydd Bwrsariaeth Prifysgol Cymru yn gwneud gwahaniaeth enfawr i mi, yn enwedig gan fy mod yn gweithio ar fy liwt fy hun - rwyf i nawr yn gallu lleihau’r oriau rwyf i’n eu gweithio er mwyn treulio mwy o amser yn astudio. Felly mae’r Fwrsariaeth wedi ysgafnhau’r ddau faich ac rwy’n teimlo nad wyf i ar fy mhen fy hun yn dilyn fy mreuddwyd i fod yn geiropractydd.
Kasia Robertson
Bydd y fwrsariaeth yn help i mi wireddu fy mreuddwydion, gan alluogi i mi barhau â fy astudiaethau drwy leihau dros dro fy meichiau ariannol ac felly roi cyfle yn y dyfodol mewn proffesiwn yr wyf yn ei garu. Rwyf i’n ystyried fy hun yn lwcus iawn i gael y dyfarniad hwn a’r cyfle i ddilyn y cwrs, ac mae cyfarfod â chynifer o diwtoriaid ysbrydoledig, brwdfrydig, ymroddedig a gwybodus yn gwneud i mi deimlo’n ostyngedig ac yn rhoi boddhad i mi.