Cyngor Prifysgol Cymru'n cyhoeddi cronfa fuddsoddi werth miliynau o bunnoedd gyda chreu Adduned Cymru

Wedi ei bostio ar 10 Rhagfyr 2012

Mae Cyngor Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi creu Adduned Cymru i sicrhau y bydd yr asedau y mae’n eu dal yn parhau i fod o fudd i Gymru gyfan cyn ac ar ôl i’r Brifysgol drawsnewid drwy uno â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe.

Bydd Adduned Cymru, fydd â chronfa werth £6.8m, yn cynnwys amrywiaeth o drefniadau strategol gan gynnwys sefydlu nifer o ymddiriedolaethau annibynnol i ddiogelu’r gwasanaethau traddodiadol sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol megis Gwasg Prifysgol Cymru, Geiriadur Prifysgol Cymru, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Neuadd Gregynog ger y Drenewydd.

Ym mis Hydref 2011, gwnaeth Prifysgol Cymru ymrwymiad i uno â Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant (PC:DD) a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe dan Siarter 1828 PC:DD. Roedd y penderfyniad hwn yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Medwin Hughes, a ddaeth i’r swydd yn y Brifysgol 12 mis yn ôl: “Mae gan Brifysgol Cymru hanes hir a balch sy'n dyddio'n ôl i 1893 ac mae wedi gwneud cyfraniad rhagorol i addysg uwch. Fodd bynnag mae'r oes wedi newid. Mae’r sector prifysgolion yng Nghymru wedi tyfu ac wedi cryfhau ac mae angen ffyrdd newydd o weithio i wynebu heriau’r byd modern.

“Mae Prifysgol Cymru’n ymwneud yn gadarnhaol â’r broses hon. Mae wedi dechrau ar drafodaethau cyfreithiol a sefydlu ymgynghoriad cychwynnol. Bydd y rhain wrth reswm yn parhau yn ystod y cyfnod hwn. Ar yr un pryd bydd y Brifysgol yn diogelu ei hetifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol a Chymru gyfan. Wrth greu Adduned Cymru, mae’r Brifysgol yn ffyddlon i’w gwerthoedd craidd ac yn sicrhau y bydd yr asedau’n gwasanaethu’r diben y'u crëwyd ar ei gyfer.”

Bydd y strwythurau cyfreithiol newydd hyn yn cefnogi ystod o fentrau academaidd a diwylliannol sy'n adlewyrchu elfennau gorau hanes ac etifeddiaeth Prifysgol Cymru. O fewn cyfnod o newid trawsnewidiol ym maes addysg uwch yng Nghymru, mae Adduned Cymru yn ailddatgan ymrwymiad clir i ddiogelu amrywiaeth o asedau diwylliannol ac academaidd i’r Genedl.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru, Mr Alun Thomas: “Gan weithio mewn partneriaethau ag eraill sydd â diddordeb mewn cyflenwi cenhadaeth Prifysgol Cymru, bydd Adduned Cymru yn sefydlu amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys sefydlu nifer o ymddiriedolaethau elusennol annibynnol gwahanol, i ddiogelu rhai o’r gwasanaethau traddodiadol sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol.”

Bydd Ymddiriedolaeth Prifysgolion Cymru yn diogelu’r rhoddion elusennol niferus y mae wedi’u derbyn dros y blynyddoedd sydd wedi’u cyflwyno at ddibenion penodol. Cyfanswm y gronfa o waddolion a dderbyniwyd oddi wrth nifer o gymwynaswyr ar hyn o bryd yw £5.5m. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn annibynnol o’r Brifysgol a bydd ganddi gynrychiolaeth o’r sector addysg uwch yng Nghymru. Caiff y gwaddolion cyfyngedig eu trosglwyddo i’r elusen, a fydd yn gwarchod y rhoddion gwreiddiol.

Caiff Academi Treftadaeth Cymru, a fydd yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg a threftadaeth a diwylliant Cymru, ei sefydlu fel menter ar y cyd. Bydd Cyngor y Brifysgol yn ymrwymo hanner miliwn o bunnoedd cychwynnol i’r ymddiriedolaeth i ddatblygu gwaith y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Geiriadur Prifysgol Cymru. Gan adeiladu ar ddiddordebau academaidd y Brifysgol ar ei newydd wedd yn ogystal â phartneriaid strategol eraill, bydd Academi Treftadaeth Cymru'n sefydlu amrywiaeth o raglenni academaidd a diwylliannol i ddathlu treftadaeth ddynamig Cymru.

Bydd Ymddiriedolaeth Gwasg Prifysgol Cymru’n diogelu ac yn datblygu gwaith y Wasg. Fe’i sefydlwyd yn wreiddiol ym 1922 ac mae iddi draddodiad balch o wasanaethu Cymru a’i holl brifysgolion gyda chyhoeddiadau ysgolheigaidd rhagorol yn Gymraeg a Saesneg sy’n datblygu gwybodaeth ac yn ysbrydoli ysgolheigion a myfyrwyr fel ei gilydd. Bydd Cyngor y Brifysgol yn trosglwyddo swm cychwynnol o hanner miliwn o bunnoedd i’r ymddiriedolaeth newydd a fydd yn cynnig cyfle i’r wasg ddatblygu cynllun strategol newydd yn cynnwys cyfleoedd busnes newydd sy’n ymateb i ofynion digidol cyhoeddi arlein ac electronig. Gan weithio gyda sefydliadau academaidd eraill, bydd y wasg yn ehangu ei chylch gorchwyl addysgol ac yn datblygu amrywiaeth o fentrau newydd. Bydd y wasg hefyd yn ffurfio cysylltiadau strategol gyda chyrff diwylliannol cenedlaethol eraill yng Nghymru.

Bydd Ymddiriedolaeth Gregynog yn diogelu Neuadd Gregynog i’r genedl. Cymynroddwyd y tŷ hanesyddol hwn a’i ystâd wledig i Brifysgol Cymru gan y chwiorydd Davies o Landinam ym 1960, ac mae wedi’i ddefnyddio’n bennaf gan staff a myfyrwyr Prifysgol o bob rhan o Gymru, gan gyflawni swyddogaeth bwysig yn hwyluso gwaith cydweithredol. Gyda chefnogaeth yr Arglwydd Davies, bydd yr ymddiriedolaeth elusennol hon yn gwahodd rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o addysg uwch, i fod yn aelodau. Ar hyn o bryd mae Gwasg Gregynog, a ddechreuodd y traddodiad argraffu cain ym 1922, yn destun adolygiad i bennu ei chyfeiriad yn y dyfodol. Bydd y Brifysgol yn defnyddio rhai o'i gwaddolion hanesyddol anghyfyngedig i sefydlu cronfa gychwynnol i gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Gregynog. Mae hwn yn ddatblygiad allweddol sy'n diogelu'r ased Cymreig cenedlaethol hwn.

Caiff y tir sy’n weddill a ddelir mewn Ymddiriedolaeth gan y Brifysgol dan Ddeddf Eglwysi Cymru, sef tua 170 o erwau, yn ogystal â rhywfaint o dir comin, ei osod mewn Ymddiriedolaeth newydd, ar wahân. Hyd yma mae Prifysgolion Cymru wedi elwa’n sylweddol yn sgil trosglwyddo a gwerthu asedau tir. Er 1939/40, mae Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd ac Abertawe wedi derbyn tua £2.7m yr un, tra bo Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phrifysgol Cymru wedi derbyn £1.8m. Bydd gweddill y tir yn cael ei werthu a bydd y cyllid a dderbynnir yn cael ei rannu yn unol â’r weithred gyfreithiol rhwng y sefydliadau a grybwyllir uchod.

Cadarnhawyd yr uniad rhwng Prifysgol Cymru, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Disgwylir y bydd y sefydliad a grëir, a fydd yn cynnwys y tair Prifysgol, yn gwbl integredig erbyn 2017/18.

/Diwedd

I gael cyfweliadau a gwybodaeth i’r cyfryngau, cysylltwch â Thîm Cyfathrebu Prifysgol Cymru drwy cyfathrebu@cymru.ac.uk neu 029 20 375057. Am wybodaeth gyffredinol a chwestiynau cyffredin am y Brifysgol ewch i www.cymru.ac.uk

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau