Wedi ei bostio ar 8 Awst 2013
Mae Prifysgol Cymru yn geidwad i nifer o asedau academaidd a diwylliannol pwysig ein gwlad. Yn sgil nifer o ddatblygiadau ail-strwythuro Prifysgol Cymru, mae cynlluniau i wireddu adduned arbennig i sicrhau dyfodol nifer o asedau academaidd a diwylliannol Cymru yn cael ei amlinellu fel rhan o Sesiwn Wybodaeth i’r Cyhoedd ar Stondin Prifysgol Cymru ar Faes Eisteddfod Dinbych a’r Cyffiniau 2013 ar ddydd Iau, 8fed Awst rhwng 1.45-2.45yp.
Bydd Adduned Cymru – The Wales Pledge, yn ariannu nifer o gyrff elusennol gwahanol er mwyn diogelu’r gwasanaethau traddodiadol sydd ynghlwm â’r Brifysgol gan gynnwys y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Geiriadur Prifysgol Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gregynog.
Mae Prifysgol Cymru hefyd wedi penderfynu sefydlu Ymddiriedolaeth Prifysgolion Cymru i ddosbarthu gwaddol Cronfa Eglwysi Cymru (Welsh Church Fund) a chymynrodd y Brifysgol ffederal.
Bydd Academi Treftadaeth Cymru yn cael ei sefydlu i hyrwyddo iaith, treftadaeth a diwylliant Cymru a thrwy wneud hynny bydd yn hybu gwaith y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a Geiriadur Prifysgol Cymru. Bydd y Brifysgol yn ymrwymo swm cychwynnol o hanner miliwn o bunnoedd i’r Academi newydd.
Bydd yr un swm o arian hefyd yn cael ei drosglwyddo i ddiogelu Gwasg Prifysgol Cymru, gafodd ei sefydlu’n wreiddiol ym 1922. Bydd y buddsoddiad yn galluogi’r Wasg i ddatblygu cynllun strategol newydd i ehangu ei chylch gorchwyl addysgol a chofleidio’r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â chyhoeddi digidol ac electronig.
Bydd cefnogaeth ariannol hefyd yn cael ei ddarparu er mwyn sefydlu corff elusennol newydd i ddiogelu Neuadd Gregynog gyda’r bwriad o warchod sefydliad hanesyddol Gwasg Gregynog, gafodd ei sefydlu gan Gwendoline a Margaret Davies, ac sydd wedi ennill enw da ledled y byd am gynhyrchu cyfrolau cyfyngedig o’r ansawdd uchaf.
Sefydliad arfaethedig Ymddiriedolaeth Prifysgolion Cymru fydd ceidwad newydd nifer o roddion elusennol (gwaddolion cyfyngedig) a dderbyniwyd gan Brifysgol Cymru dros y blynyddoedd, sydd yn werth cyfanswm o £5.5 miliwn. Bydd yr Ymddiriedolaeth yn sicrhau bod y rhoddion hyn yn cael eu defnyddio ar gyfer eu pwrpas gwreiddiol yn unig. Hefyd, bydd yr Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am y tir a ddelid gan Gomisiynwyr Cymru i Brifysgol Cymru yn dilyn Deddf Eglwys Cymru 1914. Mae Cyngor y Brifysgol wedi dod i’r casgliad y dylid gwerthu’r tir sy’n weddill. Hyd nes y cãnt eu gwerthu, mae’r Cyngor wedi cytuno i drosglwyddo’r tir hwn i’w gadw’n ddiogel gan Ymddiriedolaeth Prifysgolion Cymru.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, “Mae Prifysgol Cymru yn frand cryf. Mae iddi hanes hir a balch yn dyddio’n ôl I 1893 ac mae wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r sector addysg uwch. Fodd bynnag, daeth yn bryd newid y strwythur.
“Bydd creu Adduned Cymru - The Wales Pledge yn sicrhau bod y Brifysgol yn ffyddlon i’w gwerthoedd craidd. Bydd y cyrff elusennol newydd yn cefnogi amrywiaeth o fentrau academaidd a diwylliannol sy’n adlewyrchu elfennau gorau hanes a threftadaeth Prifysgol Cymru.
“O fewn cyfnod o newid trawsffurfiol i addysg uwch yng Nghymru, mae Adduned Cymru yn atgyfnerthu ymrwymiad clir i ddiogelu amrywiaeth o asedau diwylliannol ac academaidd i genedlaethau’r dyfodol a bydd yn gwneud cyfraniad pwysig i ddiwylliant cymdeithas ac economi Cymru am ddegawdau i ddod.”
/Diwedd
I gael cyfweliadau a gwybodaeth i’r cyfryngau cysylltwch ag Euros Lake ar 01286 685254 neu euros @cambrensis.uk.com