Wedi ei bostio ar 3 Awst 2012
Unwaith eto eleni bydd Prifysgol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gaiff ei chynnal yn Llandŵ ym Mro Morgannwg.
Yn ogystal â threfnu Darlith y Brifysgol yn y Babell Lên, byddwn ni hefyd yn cynnal cyfres o ‘Sgyrsiau Llenyddol’. Caiff y rhain eu cynnal gan Catrin Beard, beirniad llenyddol, cyflwynydd teledu ac aelod o banel llenyddiaeth yr Eisteddfod.
Bydd y digwyddiadau fel a ganlyn:
Pabell Lên
Dydd Llun
14:30 Gwyneth Lewis yn sgwrsio gyda Catrin Beard am ei chyfieithiad o waith clasurol Shakespeare The Tempest
Dydd Mawrth
12:45 Densil Morgan yn sgwrsio gyda Catrin Beard am fywyd Edward Matthews, Ewenni, un o lenorion pwysicaf Bro Morgannwg. Te a coffi i ddilyn ar Stondin y Brifysgol
Dydd Mercher
13:45 Bethan Gwanas a Haf Llewelyn yn sgwrsio gyda Catrin Beard am eu cynnyrch diweddaraf ac adfywiad y nofel Gymraeg
Dydd Iau
12:45 Arwel Jones yn sgwrsio gyda Catrin Beard am swyddogaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn yr oes ddigidol
Dydd Gwener
13:30 Darlith Prifysgol Cymru - Yr Archesgob Dr Barry Morgan ar hanes a helyntion Gerallt Gymro
Eleni bydd Prifysgol Cymru’n rhannu stondin gyda Phrifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe. Drwy gydol yr wythnos, cynhelir nifer o ddigwyddiadau ar y stondin:
Stondin Prifysgol Cymru
Dydd Llun
10:30 Jerry Hunter yn trafod Llwybrau Cenhedloedd
Dydd Mawrth
15:00 Owain Arwel Hughes yn trafod ei lyfr newydd
Dydd Iau
15:00 Yr Arglwydd Morris - Arwyddo llyfr
Dydd Gwener
11:30 Allan James yn trafod bywgraffiad John Morris-Jones
14:00 Trafodaeth am ysgrifennu gyda M Wynn Thomas, Jasmine Donahaye, Damien Walford Davies a Daniel Williams
*Yn ystod y prynhawn - Dr Christine Jones yn lansio cynlluniau dyfarniadau newydd a’r MA Astudiaethau Celtaidd
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.