Wedi ei bostio ar 25 Medi 2022

GPC mis Medi / Hydref 2022 newyddion
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Gwasg Prifysgol Cymru Dychmygu Iaith gan Mererid Hopwood. Beth yw iaith? Bu'r cwestiwn yn bwnc trafod maith ymhlith athronwyr, gwyddonwyr, addysgwyr a chymdeithasegwyr. Mewn ymgais i fwrw goleuni newydd ar y cwestiwn, try'r gyfrol hon at feirdd o Gymru a phedwar ban, gan holi sut y maen nhw wedi dychmygu iaith. Ewch at ein gwefan i brynu’r gyfrol: https://www.gwasgprifysgolcymru.org/book/dychmygu-iaith/
Yn ogystal, cyhoeddwyd Isaiah Berlin: A Kantian and Post-idealist Thinker gan Robert A. Kocis. Isaiah Berlin oedd un o feddylwyr amlycaf ail hanner yr ugeinfed ganrif. Yn y gyfrol hon, archwilir ei waith mewn cyd-destun hanesyddol am y tro cyntaf, a hynny fel meddyliwr a ddylanwadwyd yn ddwfn gan, ac a adweithiodd yn erbyn y Delfrydwyr Prydeinig. Ewch at ein gwefan i brynu’r gyfrol: https://www.uwp.co.uk/book/isaiah-berlin/