GPC mis Medi 2021 newyddion

Wedi ei bostio ar 15 Medi 2021
Theologia Cambresis Book Cover

Y mis hwn o Wasg Prifysgol Cymru, mae’r Athro Emeritws mewn Diwinyddiaeth D. Densil Morgan yn rhyddhau ail gyfrol Theologia Cambrensis: Protestant Religion and Theology in Wales. Mae’r gyfrol yn parhau i archwilio hanes diwinyddiaeth Brotestannaidd yng Nghymru drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hir, gan gynnwys ‘Brad y Llyfrau Gleision’ a chyfraniadau gan ffigurau allweddol i ddiwinyddiaeth Cymru.  Ewch i’r wefan i brynu copi: https://www.uwp.co.uk/book/theologia-cambrensis-2/

 Hefyd, mae’r Athro Emerita Miranda Aldhouse-Green o Brifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi Rethinking the Ancient Druids: An Archaeological Perspective. Mae Derwyddon ers tro wedi’u hystyried yn offeiriadaeth farbaraidd, ond defnyddir tystiolaeth archeolegol i gymhlethu eu delwedd, gan ddangos eu perthynas â’r byd ysbrydol a’u heffaith ar dirwedd Prydain.  Gallwch brynu copi ar y wefan: https://www.uwp.co.uk/book/rethinking-the-ancient-druids/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau