Wedi ei bostio ar 13 Chwefror 2023

GPC mis Chwefror 2023 newyddion
Y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, cyhoeddir This is My Truth: Aneurin Bevan in Tribune gan Nye Davies.
Dyma’r casgliad golygiedig cyntaf o erthyglau Aneurin Bevan yn y cylchgrawn sosialaidd Tribune. Mae'r cyfraniadau yn datgelu dawn Bevan i ddadansoddi gwleidyddiaeth, cymdeithas a'r byd, gan ddarparu cyfle i ddarllenwyr ddarllen syniadau Bevan yn ei eiriau ei hun.