Browser does not support script.
GPC mis Ionawr 2022 newyddion
Y mis hwn bydd Gwasg Prifysgol Cymru’n cyhoeddi Cushions, Kitchens and Christ: Mapping the Domestic in Late Medieval Religious Writing gan Louise Campion. Y gyfrol hon yw’r astudiaeth lawn gyntaf o batrymau arwyddocaol o ddelweddaeth ddomestig mewn ysgrifennu crefyddol yn Saesneg yn yr oesoedd canol hwyr a’u harwyddocâd diwylliannol ehangach. Ewch i’r wefan i brynu copi: https://www.uwp.co.uk/book/cushions-kitchens-and-christ/
Y mis hwn hefyd rydym ni’n cyhoeddi’r teitl diweddaraf yn ein cyfres Gothic Authors: Critical Revisions; Joseph Sheridan Le Fanu gan Aoife Mary Dempsey. Mae ystyriaeth o Le Fanu mewn ‘moment’ hanesyddol a diwylliannol penodol yn dangos sut y gall ailddarlleniadau cyd-destunol o ffuglen newid y prif naratif yn llwyr. Ewch i’r wefan i brynu copi: https://www.uwp.co.uk/book/joseph-sheridan-le-fanu/
Mae angen i chi fewngofnodi i gyfrannu. Os ydych chi’n ddefnyddiwr newydd, mae creu aelodaeth yn hawdd a diffwdan