Wedi ei bostio ar 6 Mehefin 2019

Gwasg Prifysgol Cymru
Y mis hwn o Wasg Prifysgol Cymru, mae Freedom Music: Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950 gan Jen Wilson yn hawlio i Gymru unwaith eto yr hanes a’r diwylliant sy’n perthyn i gerddoriaeth a ddatblygodd yn y pen draw yn jazz yn y 1920au, gyda’i changhennau a’i gwreiddiau’n estyn yn ôl i ganeuon y caethweision a’r ymgyrch i ddiddymu caethwasiaeth, a chyswllt Abertawe â Cincinnati, Ohio sydd wedi mynd yn angof. Ewch i’r wefan i brynu copi www.uwp.co.uk/book/freedom-music-paperback/.
Yn ogystal, mae’n bleser gan Wasg Prifysgol Cymru dderbyn dau enwebiad ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2019. Llongyfarchiadau i Gethin Matthews a Lisa Sheppard, y mae eu llyfrau wedi’u gosod yn y categori Ffeithiol Greadigol.