Eisteddfod 2019

Wedi ei bostio ar 30 Gorffennaf 2019
EEisteddfod_870

Eisteddfod

Gweithgareddau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy 2019

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru yn cynnig llu o weithgareddau a digwyddiadau ar gyfer pobl o bob oed ar ei stondin yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhelir eleni yn Llanrwst.

O ddydd Sadwrn, Awst 3ydd tan ddydd Sadwrn, Awst 10fed, bydd arlwy’r Brifysgol yn amrywio o berfformiadau i ddarlithoed, ac o waith crefft i drafodaethau difyr.

Dyma’r amserlen lawn sy’n cynnwys gweithgareddau manylion am holl weithgareddau’r Brifysgol ar ein stondin, sef rhif 321-324.

Dydd Llun, Awst 5ed:

Drwy’r dydd: Dewch i brofi gwahanol fyd yn ein caban rhith-wirionedd

1100 - 1200     Gweithdy Copr gyda’r artist a’r darlithydd, Gwenllian Beynon.

1200 - 1300     Sesiwn Stori gyda Chanolfan Peniarth: Pwy yw Sara Sero, a phwy yw Alun Un, a ble mae Drych Dilys Deg? Dewch i fwynhau stori neu ddwy o gasgliad o lyfrau Cymeriadau Difyr; Stryd y Rhifau

14.00- 15.00    Yr artist a’r darthlithydd, Gwenllian Beynon yn trafod ei thaith ddiweddar i Ohio a’r gwaith celf y gwnaeth hi a’i myfyrwyr greu wedi iddynt ddychwelyd.

1300 – 1400    Gwenllian Beynon, darlithydd Celf a Dylunio, Coleg Celf Abertawe yn cyflwyno adnodd newydd Celf a Dylunio – Cyfaill Celfyddyd - adnodd a grëwyd ar y cyd â Choleg Sir Gâr a Met Caerdydd dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dewch i glywed mwy am y prosiect cyffroes yma ac i sgwrsio gyda Gwenllian am yr adnodd.

1400 – 1500    Sesiwn gyda Cyw: Dewch i fwynhau chwarae gemau Cyw gyda’r cyflwynwyr Elin a Huw, yma ar ein stondin!

1500 – 1600    Sesiwn Stori gyda Chanolfan Peniarth.  Cyfres Cnoi Cil: Paul Robeson ac Eisteddfod y Glowyr 1957.  Tybed a wyddoch chi am hanes y canwr, actor ac athletwr ewnog iawn o America a oedd i fod i ganu yn yr Eisteddfod?

1600: Dewch i wrando ar Glain Rhys, cyn-fyfyrwraig BA Perfformio yn Y Drindod Dewi Sant yn perfformio set acwstig

Dydd Mawrth, Awst 6ed:

Drwy’r dydd: Dewch i brofi gwahanol fyd yn ein caban rhith-wirionedd

1100 – 1200:  Gweithdy Copr gyda’r artist a’r darlithydd, Gwenllian Beynon.

1200 – 1300:   Rhagoriaith: Lansio gwefan Cyfieithu ar y Pryd yng nghwmni Eluned Morgan AC

1200 – 1700: Sesiwn Stori gyda Chanolfan Peniarth: Wyt ti’n gwybod fod gan y falwen rhwng 12000 a 25000 o ddanedd?  Dewch i glywed mwy am rai o ffeithiau ffantastig y gyfres lyfrau Wyt ti’n gwybod?

Dydd Mercher, Awst 7fed:

Drwy’r dydd: Dewch i brofi gwahanol fyd yn ein caban rhith-wirionedd

1100 – 1200: Sesiwn gyda Siwan Thomas, myfyriwr Patrwm Arwyneb, Coleg Celf Abertawe lle ewch gyfle i weithio patrymau ar wrthrychau 2D. Mae Siwan yn gweithio gyda’r syniad o ail ddehongli gwrthrychau yn ein casgliadau cenedlaethol ac yn ddiweddar bu’n gweithio yn archif Sain Ffagan Dyma gyfle i chi drafod ei gwaith gyda hi ac i roi cynnig ar ‘chwarae’ a’i chelfwaith.

1200 – 1300: Sesiwn Stori gyda Chanolfan Peniarth: Beth sydd mor arbennig am blaned Harri? A beth yw’r stori tu ol yr asun bach, Reuben? Dewch i glywed straeon allan o’r gyfres Tybed Pam? gyda Chanolfan Peniarth

1400 – 1500:   Sesiwn Geiriadur Prifysgol Cymru.  Ymunwch â Chyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst i wrando ar Andrew Hawke, Golygydd GPC yn cyflwyno Llywydd y Cyfeillion, y Prifardd a’r Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, a fydd yn sôn am dafodiaith a dywediadau Dyffryn Conwy.   Bydd Golygyddion Hŷn GPC hefyd yn annerch y Cyfeillion, gydag Angharad Fychan yn sôn am rai o’r geiriau newydd a gyhoeddwyd yn y Geiriadur yn ystod y 12 mis diwethaf, ac Ann Parry Owen yn sôn am eirfa ‘bysgodlyd’ John Jones Gellilyfdy

 

1530:               Canolfan Peniarth yn lansio Cyfrol o Fonologau: Cefin Roberts

Ymunwch â ni i lansio cyfrol newydd o fonologau sydd wedi eu casglu ynghyd a’u golygu gan Cefin Roberts.  Mae’r casgliad o fonologau yn benodol ar gyfer disgyblion a myfyrwyr sydd yn astudio drama ar lefel TGAU a Lefel A.

 

Bydd Cefin yn cyflwyno ac yn darllen ambell un o’r monologau ac yn son am eu cefndir ac opsiynau perfformio.

Dydd Iau, Awst 8fed:

Drwy’r dydd: Dewch i brofi gwahanol fyd yn ein caban rhith-wirionedd

1100 - 1200: Sesiwn gyda Siwan Thomas, myfyriwr Patrwm Arwyneb, Coleg Celf Abertawe lle ewch gyfle i weithio patrymau ar wrthrychau 2D. Mae Siwan yn gweithio gyda’r syniad o ail ddehongli gwrthrychau yn ein casgliadau cenedlaethol ac yn ddiweddar bu’n gweithio yn archif Sain Ffagan Dyma gyfle i chi drafod ei gwaith gyda hi ac i roi cynnig ar ‘chwarae’ a’i chelfwaith.

1200 – 1300: Sesiwn Stori gyda Chanolfan Peniarth: Wyt ti’n hoffi canu….?  Wyt ti’n hoffi carioci….?  Dewch i ganu a dawnsio gyda ni mewn sesiwn arbennig gyda’r Ap Caneuon Cŵl.

 

1300 – 1400:   Owain Roberts a Gruff Roberts, dau gerddor sy’n wreiddiol o Lanfairfechan yn chwarae cerddoriaeth amgen trwy gymysgu gwahanol fathau o sain ar offerynnau acwstig. Mae Owain Roberts newydd raddio gyda gradd Technoleg Cerddoriaeth o Goleg Celf Abertawe ac yn ddiweddar wedi derbyn swydd Artist Preswyl am y flwyddyn academaidd nesa.

 

1400 – 1500: Sesiwn gyda Cyw.  Dewch i fwynhau chwarae gemau Cyw gyda’r cyflwynwyr Elin a Huw, yma ar ein stondin!

1500: Her Gyfieithu 2019 – cerdd o’r Bwyleg i’r Gymraeg 

Ymunwch â ni i wobrwyo’r bardd-gyfieithydd buddugol. Gweinir diodydd a danteithion Pwylaidd. Croeso i bawb.

Trefnir gan Gyfnewidfa Lên Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cyfieithwyr Cymru, Sefydliad Diwylliant Pwylaidd, O’r Pedwar Gwynt, Wales PEN Cymru, Prifysgol Abertawe, Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Mercator Rhyngwladol.

 

Dydd Gwener, Awst 9fed

Drwy’r dydd: Dewch i brofi gwahanol fyd yn ein caban rhith-wirionedd

1100 - 1200: Sesiwn gyda Siwan Thomas, myfyriwr Patrwm Arwyneb, Coleg Celf Abertawe lle ewch gyfle i weithio patrymau ar wrthrychau 2D. Mae Siwan yn gweithio gyda’r syniad o ail ddehongli gwrthrychau yn ein casgliadau cenedlaethol ac yn ddiweddar bu’n gweithio yn archif Sain Ffagan Dyma gyfle i chi drafod ei gwaith gyda hi ac i roi cynnig ar ‘chwarae’ a’i chelfwaith.

1200 – 1300:   Sesiwn Stori gyda Chanolfan Peniarth.  Teithio’n Ôl I’r Oesoedd Canol  - dewch i glywed hanes rhai o ewnogion pwysicaf o Gymru’r Oesoedd Canol.  Yn eu mysg, y Dywysoges Gwenllian, Gerallt Gymro, Llewelyn ein llyw olaf a llawer mwy.

 

1300 – 1400:   Owain Roberts a Gruff Roberts, dau gerddor sy’n wreiddiol o Lanfairfechan yn chwarae cerddoriaeth amgen trwy gymysgu gwahanol fathau o sain ar offerynnau acwstig. Mae Owain Roberts newydd raddio gyda gradd Technoleg Cerddoriaeth o Goleg Celf Abertawe ac yn ddiweddar wedi derbyn swydd Artist Preswyl am y flwyddyn academaidd nesa.

 

1500 – 1600:   Sesiwn Stori gyda Chanolfan Peniarth.  Cyfres Cnoi Cil: Y Royal Charter.  Roedd Hydref 26ain yn ddiwrnod a newidiodd pentref bach Moelfre am byth. Tybed a wyddoch chi am hanes y llong stêm a aeth i drafferthion mewn storm fawr oddi ar arfordir gogledd Ynys Môn?

 

1600: Dewch i wrando ar Mari Mathias, myfyrwraig BA Perfformio yn Y Drindod Dewi Sant yn perfformio set acwstig

Cofiwch alw draw i’r stondin – bydd croeso cynnes yn eich disgwyl.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau