Darlith flynyddol yr Adran Ddiwinyddiaeth (Cyn-fyfyrwyr)

Wedi ei bostio ar 16 Awst 2019
John Tudno Williams_edited-1 (002)

John Tudno Williams yn yr Eisteddfod

Traddodwyd darlith yr Adran Ddiwinyddiaeth (Cyn-fyfyrwyr) eleni gan y Cyn-brifathro John Tudno Williams, a hynny yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn Llanrwst ar 7 Awst.

Pwnc y ddarlith oedd ‘Paul a’i ddehonglwyr Cymreig’ a daeth cynulleidfa dda ynghyd i wrando ar y ddarlith ddifyr a dadlennol oedd yn rhagflas o gyfrol a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru y flwyddyn nesaf.

 Llywyddwyd y cyfarfod gan yr Athro Emeritws Densil Morgan, ac wrth groesawu a chyflwyno’r darlithydd cyfeiriodd hefyd at golli y diweddar Athro Euros Wyn Jones, Golygydd Diwinyddiaeth. Na chyhoeddwyd y cylchgrawn y llynedd, ond hyderir y gwêl y rhifyn nesaf olau dydd yn fuan. 

 Diolch i Mr Peredur Griffiths am drefnu i’r Adran gael cynnal y ddarlith ym Mhabell Cytûn. Y darlithydd ar gyfer 2020, pan gynhelir yr  Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, fydd y Dr Rowan Williams.

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau