Cylchlythyr GPC

Wedi ei bostio ar 28 Awst 2019
MedievalWales 9781786833860

Cylchlythyr GPC

Dyna dymor prysur fu hwn yn GPC gyda’r holl gynadleddau, lansio llyfrau a nifer o awduron yn ennill gwobrau!

Ym mis Ebrill, cawsom Wobr Rhagoriaeth Cynnyrch Data’r BIC! Dyma wobr sy’n cydnabod ein bod ymysg y gorau yn y diwydiant am ansawdd ein data, gan amlygu’r arbenigrwydd sydd gennym mewn mewnbynnu metadata ein holl deitlau. Gyda gwybodaeth dda mae’n llawer haws i brynwyr llyfrau a llyfrgellwyr ddod o hyd i lyfrau a’u harchebu, sy’n cyflymu eu gwaith ac yn arwain at gynnydd gwerthiant a chyrhaeddiad gwaith ein hawduron.

Bu dathliadau wrth i Emyr Humphreys gyrraedd ei gant oed – mae Emyr yn gyn-enillydd Gwobr Somerset Maugham, ac yn un o nofelwyr mwyaf blaenllaw Cymru sy’n awdur dros ddau ddwsin o weithiau ffuglen, gan gynnwys gweithiau sydd bellach yn destunau gosod Safon Uwch. Mae Emyr hefyd wedi cyhoeddi barddoniaeth nodedig, ysgrifau pwysig, a hanes diwylliannol ysbrydoledig o Gymru. I ddathlu ei ben-blwydd, cyfrannodd y Wasg i Symposiwm Canmlwyddiant Emyr Humphreys ym Mhrifysgol Abertawe, gan werthu copïau o’i gyfrol o gerddi newydd Shards of Light, y gyfrol Emyr Humphreys gan M. Wynn Thomas, a nifer o gyfrolau eraill y gallwch eu pori ar ein gwefan.

Cyhoeddwyd Medieval Wales c.1050-1332: Centuries of Ambiguity, cyfrol gyntaf ein cyfres newydd Rethinking the History of Wales. Nod y gyfres hon yw datblygu safbwyntiau newydd ar hanes Cymru trwy gyflwyno cyfnodau a themâu penodol mewn ffyrdd sy’n herio’r deongliadau arferol. Ym mis Ebrill, cyhoeddwyd How Water Makes Us Human: Engagements with the Materiality of Water, y gyfrol gyntaf yn ein cyfres newydd arall Materialities in Anthropology and Archaeology. Nod y gyfres hon yw dangos sut mae’r byd wedi’i greu o gasgliadau o ddeunyddiau sy’n rhyngweithio, gan amlygu rôl gyfansoddol ac asiantol mater wrth ffurfio bydoedd materol.

Mis Mai oedd mis cyhoeddi Freedom Music: Wales, Emancipation and Jazz 1850-1950, cyfrol sy’n olrhain hanes cerddoriaeth Americanaidd-Affricanaidd a rôl menywod yn hynny yng Nghymru ers 1850. Roedd mis Gorffennaf hefyd yn fis prysur i ni gyda chyhoeddi Speeches and Articles 2013-2017: His Royal Highness the Prince of Wales. Hon yw’r drydedd gyfrol o weithiau’r Tywysog, yn cynnwys ehangiad thematig i’r adran ar Newid Hinsawdd a Chynaladwyedd, gan gynnwys nifer o destunau sy’n ymdrin â’r berthynas gyd-gysylltiedig rhwng cynaladwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Cyhoeddwyd yr ail gyfrol yn ein cyfres Horror Studies, sef Horror and Religion: New Literary Approaches to Theology, Race and Sexuality, casgliad o ysgrifau wedi’i olygu, yn cynnig trafodaethau strwythuredig am wrthdaro ysbrydol a diwinyddol yn genre Arswyd, o ddiwedd yr 16eg ganrif i’r 21ain ganrif.

Bu’r Wasg yng nghynhadledd Ganoloesol Ryngwladol Leeds unwaith eto eleni gan arddangos ein cyhoeddiadau poblogaidd ar yr Oesoedd Canol a lansio tri o’n llyfrau diweddaraf: Body Matters: Exploring the Materiality of the Human Body, sy’n ymdrin â’r byd materol yn uniongyrchol gan ein hatgoffa ein bod wedi’n gwneud o fater ein cyrff; Dissonant Neighbours: Narrative Progress in early Welsh and English Poetry, sy’n cymharu barddoniaeth Gymraeg a Saesneg hyd at c.1250, gan holi pam fod y ddwy lenyddiaeth hyn sy’n gymdogion yn disgrifio digwyddiadau tebyg mewn ffyrdd trawiadol o wahanol a Monastic Life in the Medieval British Isles: Essays in Honour of Janet Burton, sy’n dathlu gwaith a chyfraniad yr Athro Janet Burton i astudiaethau mynachol canoloesol ym Mhrydain. Cadwch lygad ar ein tudalen Twitter i glywed am gyhoeddiadau sydd ar y gweill yn y cyfresi hyn.

Rydym yn falch o gyhoeddi bod dau o’r llyfrau yn ein cyfres Astudiaethau Llenyddol Gothig wedi’u gosod ar restr fer Gwobrau Allan Lloyd Smith eleni. Mae South African Gothic: Anxiety and Creative Dissent in the Post-apartheid Imagination and Beyond gan Rebecca Duncan ar restr fer y categori Monograff, gyda Werewolves, Wolves and the Gothic, a olygwyd gan Robert McKay a John Miller, ar restr fer Gwobr Cymdeithas y Casgliadau Golygedig. Roeddem yn falch iawn hefyd o dderbyn dau enwebiad am Lyfr y Flwyddyn 2019: llongyfarchiadau i Gethin Matthews, awdur Having a Go at the Kaiser: A Welsh Family at War a Lisa Sheppard, awdur Y Gymru ‘Ddu’ a’r Ddalen ‘Wen’: Aralledd ac Amlddiwylliannedd mewn Ffuglen Gymreig, er 1990, am eu henwebu i restr fer y categori Ffeithiol Greadigol.

Dyma rai yn unig o’n llyfrau hynod gyffrous y gallwch eu hychwanegu at eich rhestr ddarllen.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau