Cyhoeddi Enillwyr Gwobr M. Wynn Thomas 2015

Wedi ei bostio ar 11 Mawrth 2015
Dr-Heather-Williams

Cyhoeddwyd mai Dr Heather Williams, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yw un o ddau enillydd Gwobr glodfawr M. Wynn Thomas.

Caiff y wobr ei dyfarnu i ddathlu gwaith ysgolheigaidd eithriadol ym maes Llên Saesneg Cymru. Mae iddi ddau gategori, a Heather yw enillydd y categori ‘Agored’ a’i chyd-ysgolhaig, Jamie Harris (Prifysgol Aberystwyth) yw enillydd y categori ‘Ysgolhaig Newydd’.

Caiff y wobr ei rhoi am ddarn o ysgolheictod sylweddol sydd wedi’i ysgrifennu’n ddifyr, gyda chyflwyniadau sy’n arloesol o ran deunydd pwnc a/neu fethodoleg yn cael eu hannog. Gall y pynciau gynnwys pob agwedd o ysgrifennu am Gymru yn Saesneg yn ogystal â’r rhyngberthynas rhwng ysgrifennu am Gymru yn Saesneg a meysydd perthnasol (Astudiaethau Cymreig, hanes, astudiaethau diwylliannol, astudiaethau ffilm/cyfryngau, astudiaethau cyfieithu, astudiaethau perfformio/theatr, y dyniaethau digidol, llenyddiaeth gymharol ac ati).

Panel dyfarnu Gwobr 2015 oedd Dr Matthew Jarvis (Prifysgol Aberystwyth / Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant), Dr Aidan Byrne (Prifysgol Wolverhampton) a Dr Alyce von Rothkirch (Prifysgol Abertawe). Gyda chyflwyniadau unwaith eto o ansawdd uchel iawn, roedd tasg y beirniaid yn un anodd. Fodd bynnag roeddent o’r farn fod gwaith yr enillwyr yn dangos ysgolheictod eithriadol yn ogystal â pharodrwydd i ymchwilio i diriogaeth newydd.

Teitl ysgrif fuddugol Dr Williams yw Iolo Morganwg, Edward Williams and the Radically Bilingual Text: Poems Lyric and Pastoral (1794). Wrth sôn am y wobr, dywedodd:

“Mae’n anrhydedd fawr derbyn y wobr hon am fy ngwaith ar Iolo Morganwg. Gobeitho bydd fy ysgrif yn darbwyllo pobl bod i Iolo le pwysig yn nwy lenyddiaeth Cymru. Gwnes i’r gwaith fel rhan o’r prosiect AHRC ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’ yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, ac mae’n deillio o’m diddordeb mewn astudiaethau cyfieithu a ‘r ffiniau rhwng diwyllianau gwahanol."

Noddir y wobr gan Wasg Prifysgol Cymru, gyda’r enillwyr yn derbyn £150 yr un ynghyd â set lawn o deitlau cyfres Library of Wales yn rhodd gan y cyhoeddwyr, Parthian Books.

Cyflwynir y wobr yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Llên Saesneg Cymru a gynhelir yn Neuadd Gregynog ar 27 – 29 Mawrth 2015.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau