University View: Andrew Hawke

Wedi ei bostio ar 7 Mehefin 2012
Setlaptop1

Heb iaith ni all gwareiddiadau fodoli ac mae’r rhan fwyaf o wareiddiadau mawr wedi cydnabod hynny trwy astudio eu hieithoedd eu hunain.  Dyna farn Andrew Hawke, Golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru, yng ngholofn ‘University View’ y Western Mail. Cliciwch yma i weld yr erthygl lawn:

Y Tsieineaid oedd y rhai cyntaf i lunio geiriaduron, a hynny dros ddau fileniwm yn ôl. Cyhoeddwyd y geiriadur Cymraeg–Saesneg cyntaf gan William Salesbury (a gyfieithodd y Testament Newydd i’r Gymraeg hefyd) ym 1547.

Geiriadur James Murray, The New English Dictionary, a adwaenid yn ddiweddarach fel yr Oxford English Dictionary neu’r OED, a gyflwynodd y syniad o eiriadur hanesyddol, sef geiriadur yn seiliedig ar gasgliad o ddyfyniadau o holl gyfnodau iaith, wedi ei drefnu i ddangos datblygiad yr iaith honno dros y canrifoedd.  Dyma hefyd un o’r geiriaduron cyntaf i ddefnyddio tîm o weithwyr a gwirfoddolwyr i gydweithio ar brosiect anferth a barodd am ddegawdau.

Hyd yn oed cyn ei gwblhau, arweiniodd yr OED at alwad yng Nghymru am brosiect tebyg i gofnodi hanes geirfa’r Gymraeg.  Atebwyd yr alwad ymhen amser gan Brifysgol Cymru a sefydlodd dîm bach ym 1921 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a oedd newydd agor yn Aberystwyth. Dros yr 80 mlynedd nesaf, gyda chymorth gwirfoddolwyr, fe gasglodd y tîm bach hwnnw sawl miliwn o ddyfyniadau o holl gyfnodau’r iaith, a chyhoeddwyd bron i 4,000 o dudalennau’n cynnwys dros 7,000,000 o eiriau dan y teitl Geiriadur Prifysgol Cymru.

Pan gwblhawyd y gwaith, aeth y tîm yn ôl at ddechrau’r wyddor a dechrau ailolygu’r gwaith i gynnwys y geiriau a’r ystyron newydd a oedd wedi ymddangos yn yr hanner canrif cyn hynny.  Mae Cymru’n freintiedig i fod â geiriadur o’r fath o’i hiaith genedlaethol, sy’n iaith leiafrifol, tra bo’r rhan fwyaf o ieithoedd bychain yn gorfod dibynnu ar ymdrechion un neu ddau o unigolion ymroddgar na allent fyth obeithio cynhyrchu gwaith ar raddfa o’r fath.

Gellid meddwl mai cofnod sych ac academaidd o iaith fyddai gwaith fel hwn, heb fawr o ddefnydd ymarferol, ond mae hynny ymhell o’r gwirionedd.  Er bod y geiriadur yn disgrifio’r iaith ar sail y dystiolaeth sydd ar gael i’r gwahanol ystyron, mae’r staff yn ymdrechu i roi’r sillafiad cywir i bob gair yn seiliedig ar y rheolau cydnabyddedig.  Mae hyn yn ei wneud yn bwysig i eiriaduron eraill, ysgrifenwyr, athrawon a chyfieithwyr sy’n dibynnu arno am gyfarwyddyd.  Mae staff y geiriadur hefyd yn cynorthwyo cyrff cyhoeddus gyda therminoleg dechnegol, sillafu enwau lleoedd yn gywir a chyfarwyddyd ar union ystyr y geiriau a ddefnyddir i ddrafftio deddfwriaeth yng Nghymru – deddfwriaeth y bydd gan y Gymraeg a’r Saesneg ddilysrwydd cyfartal ynddi o hyn ymlaen.

Mae Prifysgol Cymru wedi ariannu’r gwaith (ynghyd â chyfraniadau sylweddol gan ffynonellau cyhoeddus fel CCAUC (HEFCW) a’i ragflaenwyr) fel rhan o’i hymrwymiad tymor hir i ymchwil yn y sector addysg uwch ac i iaith a diwylliant Cymru, ac mae’n benderfynol y bydd hyn yn parhau. Mae fersiwn cryno o’r geiriadur wedi bod ar gael ar lein ers blynyddoedd, ond er mwyn i lawer mwy o bobl gael manteisio arno, mae’r Brifysgol yn ariannu datblygu fersiwn llawn ar lein o’r geiriadur a fydd ar gael am ddim i bawb.  Mae’r tîm hefyd yn gobeithio cynhyrchu ‘ap’ o’r geiriadur llawn ar gyfer cyfrifiaduron llechen a ffonau symudol.

/Diwedd

Byddai’r criw bach a gychwynnodd y prosiect ychydig ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf yn synnu o weld canlyniad eu huchelgais. Andrew Hawke yw Golygydd Rheolaethol Geiriadur Prifysgol Cymru.

Cliciwch yma i weld yr erthygl lawn.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau