Wedi ei bostio ar 25 Mehefin 2015
Y gair amdanyn nhw yng Nghernyw yw ‘emmets’. Mae’n golygu morgrug. Ac ar ynysoedd Syllan, wrth i’r ynyswyr sôn am ‘ymwelwyr’, ceir mymryn o amarch, gyda chyfeiriad cynnil at yr ystyr ‘llau pen’. Parasitiaid felly? Wrth i’r haul ymddangos maen nhw i’w gweld ymhobman. Ond beth fydden ni’n ei wneud hebddyn nhw, y rheini yn ein plith sy’n byw yng nghanol prydferthwch y gorllewin?
Mae ymwelwyr, twristiaid, teithwyr - beth bynnag y galwch chi nhw, a sut bynnag maen nhw’n sôn amdanyn nhw eu hunain - wedi bod yn ymweld â Chymru mewn niferoedd sylweddol, niferoedd sydd wedi effeithio ar economïau ac amgylcheddau lleol ers ymhell dros ddau gan mlynedd bellach. Mae prosiect pedair blynedd newydd dan nawdd yr AHRC yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn archwilio rhai o’r adroddiadau cynharaf am weithgaredd, twristiaeth, sydd wedi siapio’r Gymru rydyn ni’n byw ynddi heddiw i raddau helaeth. Caiff y prosiect (gweler www.curioustravellers.ac.uk) ei gynnal ar y cyd â Phrifysgol Glasgow, felly mae gennym ni ddeunydd diddorol cyffelyb o’r Alban hefyd.
Ddechrau’r 18g fyddai neb call wedi dod i Gymru am hwyl (er efallai y byddech wedi dod i gloddio am arian, neu i chwilio am blanhigion prin): roedd yn foel ac yn greigiog, yn llawn mynyddoedd ofnadwy, gyda’r bobl yn siarad mewn iaith ryfedd, gras ‘yn debycach i glegar gwyddau neu dwrcîod na lleferydd creaduriaid synhwyrol’. Ond erbyn y 1790au, roedd ieithoedd dieithr yn ddiddorol, roedd creigiau’n golygu rhaeadrau, ac roedd mynyddoedd yn odidog - daeth pobl yn llu, mewn cerbydau, ar gefn ceffyl, a hyd yn oed ar droed i’w crwydro. Agorwyd gwestai i letya’r teithwyr; daeth cyflenwyr lleol gydag eogiaid, wyau a chwrw; aeth tywyswyr â’r unigolion mwyaf dewr i fyny’r mynydd - am bris. A doedd dim posib osgoi telynorion yn ychwanegu lliw ac awyrgylch lleol i gyd-fynd â’r prydau bwyd.
Mae’n ddigon hawdd i ni eu gwawdio: rhai yn chwilio am dderwyddon, eraill ag obsesiwn am raeadrau, yn cam-ynganu enwau llefydd neu’n aros yn ddigalon i olygfeydd pictiwresg ymddangos drwy’r glaw diddiwedd. Ond denodd Cymru bobl ryfeddol yn y cyfnod hwn – Turner ifanc, a ddaeth bum gwaith yn ystod y 1790au, yn braslunio a pheintio gydag angerdd; Wordsworth, a brofodd foment o weledigaeth ar gopa’r Wyddfa; a Coleridge, a gafodd ffrae wleidyddol mewn tafarn yn y Bala. Dyna Michael Faraday, yn disgrifio’r gweithfeydd copr yn Abertawe gyda manylder technegol sy’n darllen fel barddoniaeth; neu Catherine Hutton graff, na chyhoeddwyd ei chofnod yn nodi manylion bywydau menywod cefn gwlad Cymru gyda diddordeb a thrugaredd.
Hyd yn oed bryd hynny roedd diflastod wrth weld torfeydd yr haf: y bobl grand ar eu ‘North Welsh Tour’ yn brysio yn eu cerbydau o un castell i’r nesaf. ‘Dyw teithwyr sy’n symud mor gyflym’ cystwyodd Hutton ‘ ddim yn gallu gweld Cymru’. Nododd hefyd y cynnydd ‘rheibus’ mewn prisiau: ‘Soniodd clerigwr gonest o Gymro wrthyf gyda thristwch fod y ceiswyr mynyddoedd o Loegr wedi gwneud ei wlad mor ddrud, doedd dim modd iddo fforddio byw ynddi’. Elw a ffyniant, neu erydu’r iaith a’r tirlun? Rydym ni’n adnabod y pryderon hyn, a’r tensiynau diwylliannol pwerus yn natur symbiotig twristiaeth, hyd heddiw.
Dr Mary-Ann Constantine
Uwch Gymrawd Ymchwil, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn y Western Mail ddydd Iau 25 Mehefin 2015