Ai bod, ai peidio â bod!

Wedi ei bostio ar 4 Mai 2016
Ffilm Shakespeare 2016

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Dewi Huw Owen, myfyriwr PhD mewn Astudiaethau Cyfieithu yn Y Ganolfan a chyn-ymchwilydd yn Sefydliad Mercator, Prifysgol Aberystwyth ar brosiect Cronfa Cyfieithiadau’r Gymraeg, ac Adam Wilson, gwneuthurwr ffilmiau ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi dewis dathlu pen-blwydd Shakespeare drwy gynhyrchu ffilm amlieithog o’i waith.

Fel y llynedd, cyhoeddir y ffilm ar flog academaidd pythefnosol Huw, Bob dydd Iau bydd #cyfieithiadau! Ddeuddeg mis yn ôl, ‘Soned 30’ oedd eu testun, a pherfformiwyd y darn gan gast amlieithog ar draws sawl cyfandir. Eleni, ‘Ai bod, ai peidio â bod’, araith enwog Hamlet, tywysog Denmarc, sydd wedi denu sylw’r ddau.

Wrth sôn am yr ymson a’r modd y caiff ei berfformio, dywedodd Huw:

“Er mai ymson unigolyn yw’r araith hon yn y ddrama wreiddiol, mae ynddi nifer o leisiau gwahanol, sydd oll yn mynegi safbwyntiau penodol yn y ddadl sy’n corddi ym meddwl Hamlet. Drwy roi cymeriad i bob un o’r dadleuon hyn, gwelwn ddyfnder a chymhlethdod y Daniad ei hun, a chawn bortread byw o’r cyflwr dynol, amlochrog, amlddiwylliannol, ac amlieithog, a berthyn iddo.”

Atega Adam farn Huw, gan esbonio bod dawn Shakespeare i lunio straeon oesol sy’n pontio rhwng ieithoedd a diwylliannau yn destun chwilfrydedd iddo, a’i fod yn mwynhau cael archwilio’r gwahanol ddulliau y gellir cyfieithu gwaith y dramodydd yn greadigol o gyfrwng i gyfrwng.

Yn ymuno  ag Adam a Huw yn y prosiect eleni mae tri actor rhyngwladol ifanc a chanddynt gysylltiadau cryfion ag Aberystwyth.

Graddiodd Adrian Jezierski, sy’n wreiddiol o Wlad Pwyl, o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu (TFTS) ym Mhrifysgol Aber yn 2015. Y mae wedi astudio gyda chwmnïau theatr ar draws Ewrop, ac yn 2014 cafodd y cyfle i gymryd rhan yng Ngŵyl Odin Teatret. Parhaodd Adrian i astudio gydag un o’i diwtoriaid o Aber, Jill Greenhalgh, wedi iddo gwblhau ei astudiaethau yn y Brifysgol, ac y mae bellach yn gweithio fel Tiwtor Theatr Corfforol gyda Chanolfan y Celfyddydau a Theatr Arad Goch.

Ymchwilydd, scenograffydd, ac artist gweledol yw Lara Kipp, sydd ar hyn o bryd yn nhrydedd blwyddyn ei doethuriaeth yn TFTS yn astudio scenograffeg Howard Baker. Yn wreiddiol o Fafaria, mae Lara wedi actio ar S4C a gyda Chwmni Theatr Gwir sy’n Llechu/Lurking Truth Theatre Company. Dylanwadwyd ar ei diddordebau theatr yn fawr gan gynhyrchiad Lucy Bailey o Titus Andronicus yn 2006, a dyna’i hoff ddrama o eiddo Shakespeare hyd heddiw.

Myfyrwraig yn ei blwyddyn gyntaf yn Aberystwyth sy’n astudio Saesneg ac Astudiaethau Theatr a Drama fel gradd gyfun yw Pippa Martin. Yn wreiddiol o Dde Affrica, meithrinwyd diddordeb Pippa mewn cyfieithu yn y theatr yn ystod ei blwyddyn allan yn Ffrainc. Dyma ei phrofiad cyntaf o actio ym myd ffilm a theledu.

Gellir gweld y ffilm drwy ymweld â blog Huw - https://cyfieithiadau.wordpress.com/

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau