Wedi ei bostio ar 20 Hydref 2010

Cynhysgaeth Rhufain
2010 yw blwyddyn canmlwyddiant y Gymdeithas Rufeinig ac mae hefyd yn dynodi un ganrif ar bymtheg ers y dyddiad a ddyfynnir yn draddodiadol i nodi diwedd cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain. I ddynodi’r digwyddiadau hyn, bydd y Gymdeithas, ar y cyd gyda Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, yn noddi’r gynhadledd un-dydd Cynhysgaeth Rhufain (The Legacy of Rome) ar y cyfnod allweddol hwn yn y trawsnewidiad o Brydain Rufeinig orllewinol i Gymru ganol oesol gynnar. Cynhelir y gynhadledd ar y 13 Tachwedd yn Neuadd Penbryn, Prifysgol Aberystwyth.
Gellir olrhain sawl nodwedd Gymreig arwyddocaol yn ôl i gyfnod olaf rheolaeth Rufeinig a’r cyfnod a ddilynodd yn syth wedyn. O ran asesu pa mor Rufeinig a fu’r rhan hon o’r Ymerodraeth ac i ba raddau y pennodd y cyfraniad Rhufeinig wneuthuriad yr hunaniaeth gelfyddydol a oedd i godi i’r brig i’r gorllewin o Loegr Eingl-Sacsonaidd, erys y cwestiwn at ei gilydd yn un pen agored. Mae ail hidlo ymchwil ddiweddar (lleoliadau, henebion, arysgrifau) a’i dadansoddi yn argoeli bod yn orchwyl gwerth ymgymryd â hi yn y flwyddyn garreg filltir hon.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys Roger White, Prifysgol Birmingham; Alan Lane, Prifysgol Caerdydd; Dave Longley, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd; Richard Brewer, Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Thomas Charles-Edwards, Prifysgol Rhydychen; Jonathan Wooding, Prifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan; Nancy Edwards, Prifysgol Bangor a Huw Pryce, Prifysgol Bangor. Cyflwynir darlith Huw Pryce yn Gymraeg a bydd cyfleusterau cyfieithu ar y pryd ar gael.
I gofrestru ac am wybodaeth bellach cysylltwch ag
a.elias@cymru.ac.uk (01970 636543).
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
Am fwy o wybodaeth am CUCCh ewch at:
http://www.cymru.ac.uk/en/CanolfanUwchefrydiauCymreigaCheltaidd/Cyflwyniadi’rGanolfan.aspx Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru, os gwelwch yn dda:
t.barrett@cymru.ac.uk 02920 376991