Geiriadur Prifysgol Cymru Ar Lein

Wedi ei bostio ar 26 Mehefin 2014
Geiriadur Arlein

Yr Athro Dafydd Johnston, Jens Erlandsen, Andrew Hawke, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Y Athro Medwin Hughes, Meri Huws a Alun Thomas

Y bore yma bu’r Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru, yn lansio fersiwn ar lein Geiriadur Prifysgol Cymru.

Yn ystod y digwyddiad, yn y Senedd, mewn cyflwyniad yn defnyddio’r geiriadur ar lein gan y golygydd Andrew Hawke, dangoswyd sut y bydd defnyddwyr yn gallu canfod ystyr gair neu ymadrodd ar unwaith, a gweld yn syth beth yw cenedl gair, y ffurfiau lluosog, y diffiniad ohono, pa eiriau eraill sy’n golygu’r un peth, a llawer mwy.

Gan siarad wrth lansio, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae’r fersiwn ar-lein yma yn gam mawr ymlaen yn hanes y Geiriadur. Bydd yn galluogi pobl i ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd ac yn gyflym, trwy ddefnyddio technoleg fodern.

“Hoffwn longyfarch staff Geiriadur Prifysgol Cymru ar y gwaith ardderchog maen nhw wedi ei wneud i gyflwyno’r fersiwn ar-lein. Mae’n wasanaeth gwych, a fydd yn cefnogi twf yr iaith dros y blynyddoedd i ddod.”

Geiriadur Prifysgol Cymru yw unig eiriadur hanesyddol Cymraeg safonol yr iaith Gymraeg. Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull a’i gwmpas â’r Oxford English Dictionary. Mae’n cyflwyno geirfa’r iaith Gymraeg o’r testunau Hen Gymraeg cynharaf hyd at iaith bob dydd heddiw. Olrheinir dyddiad cynharaf pob gair ac enghraifft o’r gair ar hyd yr oesoedd gan ddangos, yn aml, sut y mae’r gair wedi newid ei ystyr. Yn y fersiwn ar lein fe fydd modd i’r darllenydd weld tarddiad, diffiniad Cymraeg a chyfystyron Saesneg gair ynghyd ag enghreifftiau hanesyddol. Mae modd hefyd chwilio am eiriau Saesneg.

Sefydlwyd cynllun darllen y Geiriadur yn 1921 fel prosiect ymchwil cyntaf Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Casglwyd bron i ddwy filiwn o slipiau a fyddai’n sylfaen i’r Geiriadur. Dechreuwyd ar y gwaith golygu yn 1948 ac yn 1967 cyhoeddwyd cyfrol gyntaf y Geiriadur (a–ffysur). Cyhoeddwyd yr olaf o’r pedair cyfrol (s–Zwinglïaidd) yn 2002 ac ers hynny mae’r tîm, sy’n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, wedi bod yn ailolygu’r Geiriadur ac wedi cyhoeddi deuddeg rhifyn o’r Ail Argraffiad (a–brig).

Yn 2006 cafodd y Geiriadur ei restru mewn cyhoeddiad gan Universities UK fel un o “gant o ddarganfyddiadau a datblygiadau ym mhrifysgolion y Deyrnas Gyfunol sydd wedi newid y byd yn yr hanner canrif diwethaf” – un o ddeg yn unig o brosiectau yn y celfyddydau.

Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru am y lansio:

“Mae heddiw yn garreg filltir hynod o bwysig yn hanes y Geiriadur – mae Prifysgol Cymru yn hynod o falch fod holl gyfoeth Geiriadur Prifysgol Cymru bellach ar lein ac ar gael yn rhad ac am ddim i ddefnyddwyr.”

Ychwanegodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg sydd â’r rôl o gydgysylltu’r maes geiriadura ac o roi cyfeiriad strategol i’r gwaith:

“Fel y mae technoleg yn dod yn gynyddol bwysig yn y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio, mae angen i’r maes geiriadura newid ac esblygu. Bydd Geiriadur Prifysgol Cymru Ar lein yn galluogi defnyddwyr, boed y rheiny’n gyfieithwyr, academwyr, myfyrwyr, gweithwyr mewn sefydliadau neu’n ddarllenwyr cyffredin i gael gafael ar wybodaeth am eiriau Cymraeg yn hawdd ac yn gyflym.”

Mae dylanwad y Geiriadur drwy gyfrwng y cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu’n gyson yn ystod y misoedd diwethaf. Bob dydd caiff ‘gair y dydd’ ei drydar ac mae nifer y dilynwyr bellach dros fil a hanner. Mae dros fil o bobl yn dilyn y Geiriadur ar Facebook.

Mae hi wedi bod yn fwriad ers tro i roi’r Geiriadur ar lein ond roedd yn broses hir gan bod yn rhaid trosi holl ddata y Geiriadur – cyfanswm o ryw wyth miliwn o eiriau!

“Mae’n braf gweld hynny wedi digwydd o’r diwedd,” meddai Andrew Hawke, Golygydd Rheolaethol y Geiriadur. “Mae’n braf gallu ychwanegu geiriau newydd yn ôl y galw yn lle gorfod dilyn trefn yr wyddor. Byddwn ni hefyd yn gallu newid hen gofnodion yn syth.”

Eisoes ychwanegwyd geiriau megis ‘cyfrifiadur’, ‘carafanio’, ‘clustffon’, ‘cymuned’, a ‘cyfathrebu’.

Dilynwch @geiradur ar Twitter (https://twitter.com/geiriadur) a Geiriadur Prifysgol Cymru ar Facebook (https://www.facebook.com/geiriadur.prifysgolcymru)

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

Dolenni Tebyg