Wedi ei bostio ar 1 Hydref 2015
Heddiw, ar y 1 Hydref bydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn dathlu deng mlynedd ar hugain ers ei sefydlu gan Brifysgol Cymru yn 1985.
Fe’i sefydlwyd fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill, a chafodd gartref am yr wyth mlynedd cyntaf gan Goleg Brifysgol Cymru, Aberystwyth, ger yr Hen Goleg, cyn symud yn 1993 i adeilad pwrpasol wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dywedodd yr Athro Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, am y Ganolfan:
‘Ers ei sefydlu ddeng mlynedd ar hugain yn ôl mae ymchwil ysgolheigaidd a rhagoriaeth academaidd wedi bod yn hanfodol i genhadaeth y Ganolfan. Yn ystod y cyfnod hwn mae ymchwilwyr y Ganolfan wedi gwneud cyfraniad enfawr i ysgolheictod Cymreig, ac mewn partneriaeth â sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt maent wedi creu adnoddau hanfodol ar gyfer Astudiaethau Celtaidd.’
Ar hyn o bryd mae gan y Ganolfan ddeg ar hugain o staff academaidd a chynorthwyol. Er nad yw’n sefydliad dysgu, mae amgylchfyd ymchwil y Ganolfan yn ddelfrydol ar gyfer ôl-raddedigion sy’n cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr yn eu meysydd.
Wrth sôn am brosiectau ymchwil y Ganolfan dywedodd y Cyfarwyddwr presennol, yr Athro Dafydd Johnston:
"Mae gweithgareddau’r Ganolfan wedi ehangu dros y blynyddoedd gyda phrosiectau arloesol sy’n ei rhoi ar flaen y gad mewn ymchwil ar y gwledydd Celtaidd. Gyda’i bri rhyngwladol, ansawdd uchel ei hymchwilwyr, a record ragorol o ran cynnal prosiectau ymchwil cydweithredol, mae’r Ganolfan wedi gwneud cyfraniad sylweddol i wybodaeth a dealltwriaeth am dreftadaeth ddiwylliannol Cymru.’
Mae barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol wedi bod yn un o feysydd craidd y Ganolfan ers y cychwyn. Y prosiect ymchwil cyntaf, dan arweiniad y Cyfarwyddwr yr Athro R. Geraint Gruffydd, oedd Beirdd y Tywysogion, sef beirdd llys y 12fed a’r 13eg ganrif, corff o farddoniaeth astrus a gyhoeddwyd mewn cyfres ysblennydd o saith cyfrol. Dilyniant naturiol i hwnnw oedd prosiect ar Feirdd yr Uchelwyr, a gychwynnodd yn 1993 dan arweiniad Dr Ann Parry Owen ac sydd wedi cynhyrchu cyfres o 44 o gyfrolau o farddoniaeth y cyfnod 1300-1525. Erbyn y prosiect ar farddoniaeth Guto’r Glyn (2008-12) roedd y dechnoleg newydd yn caniatáu cyhoeddi’n electronig ar wefan ddwyieithog sydd ar gael i bawb yn rhad ac am ddim - www.gutorglyn.net. Y gwaith diweddaraf ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol yw Cwlt y Seintiau yng Nghymru (2013-17), prosiect wedi’i arwain gan Dr David Parsons a fydd yn rhoi’r holl destunau Cymraeg am y seintiau ar wefan gyhoeddus, www.seintiaucymru.ac.uk.
Prosiect ymchwil hynaf y Brifysgol yw’r geiriadur hanesyddol o’r iaith Gymraeg, Geiriadur Prifysgol Cymru. Dechreuodd y gwaith casglu yn 1920, a chyhoeddwyd y cwbl mewn pedair cyfrol rhwng 1950 a 2002. Bellach mae Uned y Geiriadur yn rhan o’r Ganolfan ac mae’r gwaith ar gael ar lein yn rhad ac am ddim, http://geiriadur.ac.uk/. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal Y Bywgraffiadur Cymreig mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru (http://yba.llgc.org.uk/), dan olygyddiaeth yr Athro Dafydd Johnston.
Mae prosiectau’r Ganolfan wedi goleuo sawl agwedd ar hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Athro John Koch wedi arwain ymchwil ryng-ddisgyblaethol ar hanes cynnar yr ieithoedd Celtaidd a greodd adnoddau sylfaenol fel Celtic Culture: A Historical Encyclopedia (2006) a’r Atlas for Celtic Studies (2007), ac mae’r ymchwil yn parhau gydag Ewrop Môr Iwerydd ac Oesoedd y Metalau: cwestiynau am iaith gyffredin (2013-16), prosiect sy’n cyfuno ieithyddiaeth ac archaeoleg i ailystyried tarddiad daearyddol yr ieithoedd Celtaidd.
Roedd Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg dan arweiniad yr Athro Geraint H. Jenkins, ail Gyfarwyddwr y Ganolfan, yn brosiect arloesol a gynhyrchodd un ar ddeg o gyfrolau yn Gymraeg a Saesneg am hynt a helynt y Gymraeg ers yr Oesoedd Canol. Agorwyd maes cyfoethog arall gan Peter Lord a thîm prosiect Diwylliant Gweledol Cymru, ac mae’r tair cyfrol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn drysorfa o wybodaeth am hanes ein celf.
Bu’r cyfnod Rhamantaidd yn ffocws ar gyfer dau brosiect sylweddol dan arweiniad Dr Mary-Ann Constantine, Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru a Cymru a’r Chwyldro Ffrengig. Ymhlith y cyfrolau niferus a gyhoeddwyd y mae golygiad o lythyrau Iolo Morganwg mewn tair cyfrol swmpus, a chyfres o destunau’n mynegi ymateb amlweddog pobl Cymru i’r Chwyldro yn Ffrainc. Prosiect diweddaraf Dr Constantine yw un pedair blynedd (2014-18) mewn partneriaeth â Phrifysgol Glasgow ar lên teithio’r cyfnod, Teithwyr Chwilfrydig: Thomas Pennant a Theithio i Gymru ac i'r Alban 1760-1815.
Mae llythyrau’n ddrych i rwydweithiau gwybodaeth y gorffennol, ac yn ogystal ag Iolo Morganwg mae’r Ganolfan wedi cyhoeddi holl ohebiaeth y Celtegydd a gwyddonydd arloesol Edward Lhwyd ar wefan Early Modern Letters Online (http://emlo.bodleian.ox.ac.uk/). Ar hyn o bryd mae Dr Marion Löffler yn gweithio ar y cysylltiadau Ewropeaidd a welir yng ngohebiaeth yr hanesydd o Ferthyr Tudful, Thomas Stephens.
Mae enwau lleoedd Cymru yn un arall o feysydd craidd y Ganolfan, dan arweiniad Dr David Parsons, sy’n cydweithio â Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Comisiwn Henebion i ddatblygu casgliad cenedlaethol o enwau lleoedd.
Wrth i’r Ganolfan ddathlu’r deng mlynedd ar hugain eleni, mae’i dyfodol yn ddiogel yn ystod ac ar ôl yr uno rhwng Prifysgol Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r Brifysgol wedi cadarnhau ei hymrwymiad i warchod y gweithgareddau academaidd a diwylliannol a gynhelir ganddi, a thrwy Adduned Cymru mae wedi sefydlu cwmni elusennol, gydag Arwel Ellis Owen yn Gadeirydd ar y Bwrdd Cyfarwyddwyr, er mwyn sicrhau parhad cyfraniad y Ganolfan i ddysg ac ysgolheictod Cymru.
Gan gadw ei chysylltiadau cryf â sefydliadau academaidd a chyrff diwylliannol eraill, bydd y Ganolfan yn parhau i gynnal ystod eang o raglenni ymchwil i ddathlu a hyrwyddo iaith, treftadaeth a diwylliant Cymru.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion: Am ragor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu - cyfathrebu@cymru.ac.uk