Wedi ei bostio ar 9 Hydref 2015
Gyda’r rhaglen gyntaf yn cael ei darlledu nos Fawrth, mae cyfres ddogfen newydd mewn tair rhan gan y BBC yn dilyn taith yr anthropolegydd yr Athro Alice Roberts a’r archeolegydd Neil Oliver i chwilio am y Celtiaid - un o ddiwylliannau hynafol mwyaf dirgel y byd.
Roedd rhaglen gyntaf y gyfres yn edrych ar darddiadau’r Celtiaid yn Alpau canolbarth Ewrop, a bu’r Athro John Koch, Uwch Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru’n gweithio gyda’r BBC, gan gyfrannu i’r rhaglen.
Treuliodd Koch, y cyflwynydd yr Athro Alice Roberts, a chriw ffilmio’r BBC dri diwrnod yn ne Portiwgal ar gyfer rhan o’r rhaglen yn edrych ar ymchwil diweddar Koch ar arysgrifau Tartessaidd hynafol y rhanbarth. Gyda dyddiad pendant i’r henebion hyn yng nghanol y seithfed ganrif CC, cydnabyddir yn eang eu bod yn cynnwys y Gelteg ysgrifenedig gynharaf a ddarganfuwyd erioed.
Mae ei ymchwil yn rhan o brosiect ymchwil tair blynedd a gyllidir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau o’r enw Ewrop Môr Iwerydd yn Oesoedd y Metelau: Cwestiynau am Iaith Gyffredin. Mae’r prosiect sydd wedi’i leoli yn y Ganolfan Uwchefrydiau dan arweiniad Koch ar hyn o bryd yn edrych yn ofalus ar yr henebion hyn a thystiolaeth arall sy’n cefnogi’r ddamcaniaeth newydd fod yr ieithoedd Celtaidd wedi ymddangos yn rhanbarth yr Iwerydd mor gynnar ag Oes yr Efydd.
Mae’r agwedd newydd hon yn herio’r farn draddodiadol am darddiadau Celtaidd yng ngorllewin canolbarth Ewrop yn ystod Oes yr Haearn (tua 800 BC).
Wrth siarad am y ddamcaniaeth newydd hon dywedodd Koch:
“Mae’n arbennig o bwysig yng Nghymru, lle mae iaith Geltaidd yn dal i gael ei defnyddio’n eang, ein bod ni’n arwain gyda syniadau newydd am ble a phryd yr ymddangosodd yr ieithoedd hyn; gallai fod yn agosach atom nag y’n dysgwyd i gredu.”
Mae cyfres y BBC yn cyd-fynd ag arddangosfa arbennig yn yr Amgueddfa Brydeinig - Celts: art and identity. Fel rhan o’r arddangosfa cynhelir trafodaeth panel, In search of the Celts: beyond art, language and genetics, ar 16 Hydref am 6.30pm yn Narlithfa BP yr Amgueddfa.
Dan gadeiryddiaeth ei gyd-ymchwilydd ar brosiect Ewrop Môr Iwerydd yr Athro Syr Barry Cunliffe o Rydychen, bydd John Koch yn ymuno â phanel rhyngddisgyblaethol i drafod sut mae’r syniad o Geltigrwydd wedi’i gymhwyso i nifer o feysydd gan gynnwys celf, diwylliant, archaeoleg a hyd yn oed geneteg. Byddan nhw’n archwilio’r dystiolaeth ym mhob maes ac yn taflu goleuni ar y persbectifau sy’n cael eu cyflwyno, sy’n aml yn gwrthdaro.
Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad gan gynnwys sut i archebu tocynnau ar wefan yr Amgueddfa Brydeinig
Yn dilyn hyn, fel rhan o brosiect Ewrop Môr Iwerydd, cynhelir fforwm undydd Pobl y Biceri, Geneteg y Cynfyd ac Ymdarddiad y Celtiaid ddydd Sadwrn 31 Hydref yn y Drwm yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys rhaglen y dydd a sut i gofrestru ar wefan y prosiect - www.aemap.ac.uk
Gellir gweld rhaglen gyntaf cyfres y BBC The Celts: blood iron and sacrifice ar iPlayer
Darlledir ail raglen y gyfres ddydd Mawrth 13 Hydref am 9.00pm ar BBC 2.