Wedi ei bostio ar 1 Hydref 2018
“Teithwyr Chwilfrydig” - Dr Johnson a Thomas Pennant ar Daith
Arddangosfa yn Nhŷ Dr Johnson, Llundain, 17 Gough Square EC4A 3DE
5 Hydref 2018 – 12 Ionawr 2019
Byddwn yn edrych ar ddau awdur dylanwadol o’r 18g., y naturiaethwr o Gymru Thomas Pennant (1726–98) a’r awdur a’r geiriadurwr o Loegr Samuel Johnson (1709–84), ac ymateb darllenwyr cyfoes i’r hyn sydd ganddynt i’w ddweud am eu teithiau i Gymru ac i’r Alban.
Lluniau trwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Digwyddiadau Eraill yn Llundain
30 Hydref (darlith gyhoeddus i Gymdeithas y Cymmrodorion): Dr Mary-Ann Constantine, ‘Curious Travellers: Tours of Wales 1760–1820’ (Cymdeithas Feddygol Llundain, 11 Chandos Street, Llundain W1G 9DP).
15 Tachwedd (digwyddiad gyda’r nos yn Nhŷ Dr Johnson): yr Athro Murray Pittock a’r Athro Nigel Leask, Prifysgol Glasgow, ‘Johnson and Pennant in Scotland’.
16 Tachwedd (Cymdeithas Linnean, Tŷ Burlington): ‘Thomas Pennant, Travel and the Making of Enlightenment Knowledge’. Cynhadledd undydd a lansiad y testunau digidol ynghyd ag arddangosfa o waith Pennant.
14 Rhagfyr (digwyddiad gyda’r nos yn Nhŷ Dr Johnson): barddoniaeth, cerddoriaeth a thrafod teithio gydag Alec Finlay ac Ifor ap Glyn. Am ragor o wybodaeth a thocynnau:
http://www.drjohnsonshouse.org neu http://curioustravellers.ac.uk/cy