Wedi ei bostio ar 8 Mehefin 2012

CAWCS
Beth fedrwn ni ei ddysgu am y seintiau Celtaidd a’u cyltiau o astudio enwau llefydd? Beth fedrwn ni ei ddysgu am arwyddocâd a dyddiad enwau llefydd o astudio cyltiau’r seintiau?
Dyma rai o’r cwestiynau fydd yn cael eu trafod yn y fforwm ‘Seintiau ac enwau llefydd: Cymru a’r Alban’ a gynhelir ar 9 Mehefin yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth dan adain Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Bwriad y fforwm yw rhoi llwyfan i waith y prosiect o Glasgow ‘Commemorations of saints in Scottish place-names’ (a gyllidir gan Ymddiriedolaeth Leverhulme), a chyflwyno gwaith tebyg sy’n cael ei wneud yng Nghymru.
Bydd nifer o enwau nodedig ym maes astudiaethau Celtaidd ymhlith y prif siaradwyr: David Parsons, Karen Jankulak, Jonathan Wooding, Thomas Clancy, Gilbert Markus a Rachel Butter.
Cysylltwch â cawcs@cymru.ac.uk am ragor o fanylion neu ffoniwch (01970) 636543. Rhaid cofrestru am y fforwm erbyn 1 Mehefin; gellir cael y ffurflen drwy glicio’r ddolen hon:
http://www.wales.ac.uk/Resources/Documents/Centre/2012/Fforwm-Seintiau-A4-Saesneg.pdf
Mewn newyddion eraill, mae dyddiad cau ymgeisio am raddau Ymchwil Ôl-raddedig ac ysgoloriaethau PhD yn dynesu a dylid eu cwblhau a’u dychwelyd i’r Ganolfan Uwchefrydiau erbyn 31 Gorffennaf 2012 fan bellaf. I gael manylion pellach am y broses ymgeisio, cliciwch y ddolen isod:
http://www.wales.ac.uk/cy/CentreforAdvancedWelshCelticStudies/PostgraduateStudy/PostgraduateStudy.aspx
/DIWEDD