Yr Athro Dafydd Johnston yn siarad mewn Symposium ar Dánta Grádha

Wedi ei bostio ar 21 Medi 2016

I ddathlu canmlwyddiant cyhoeddi’r golygiad cyntaf o Dánta Grádha, blodeugerdd o farddoniaeth serch Wyddelig a gasglwyd ac a olygwyd gan Tomás Ó Rathile, cynhaliwyd symposium y penwythnos hwn ar y dánta grá, barddoniaeth serch foneddigaidd o Iwerddon a’r Alban o’r cyfnod Modern Cynnar, yn yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Athrofa Uwchefrydiau Dulyn (DIAS).

Ymhlith y siaradwyr roedd yr Athro Dafydd Johnston, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a gyflwynodd bapur â’r teitl Metaphors of love in the poetry of Dafydd ap Gwilym. Roedd ei bapur yn ystyried rhai o’r trosiadau a ddefnyddiwyd gan y bardd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg gan archwilio themâu gan gynnwys y corff fel tirlun, cariad fel grym treisiol ymwthiol a’r potensial sydd gan drosiad i fod yn amwys ac yn ddeublyg ei ystyr.

Sefydlwyd yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn 1940 fel rhan o DIAS, ac mae’n ganolfan benodol ar gyfer astudio’r ieithoedd Celtaidd llafar ac ysgrifenedig drwy hanes, yn ogystal â hanes cysylltiedig materion diwylliannol, cymdeithasol a chyfreithiol. Yn dilyn ei sefydlu cafwyd dyheadau am ysgol debyg yng Nghymru ac roedd ei henw da cynyddol, a’r ffaith fod y cenhedloedd Celtaidd eraill yn sefydlu athrofeydd tebyg, yn sbardun ychwanegol i’r ymgyrch, a wireddwyd yn y pen draw yn 1985 gyda sefydlu’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Gyda rhaglen lawn, ymhlith y siaradwyr eraill yn y symposiwm roedd Neil Buttimer (Coleg y Brifysgol Cork) Mícheál Hoyne (DIAS) Mícheál Mac Craith (Coleg St. Isidore, Rhufain) Damian McManus (Coleg y Drindod, Dulyn), Deirdre Nic Mhathúna (Coleg St. Patrick, Drumcondra) Máirín Ní Dhonnchadha (Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Galway), Síle Ní Mhurchú (DIAS), Ruairí Ó hUiginn (Prifysgol Genedlaethol Iwerddon, Maynooth) a Mícheál Ó Mainnín (Prifysgol Queen’s, Belffast).

I gael rhagor o wybodaeth am yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn Athrofa Uwchefrydiau Dulyn ewch i - www.celt.dias.ie

I gael rhagor o wybodaeth am y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd – www.cymru.ac.uk/YGanolfanGeltaidd

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau