Lleoli Chwyldro

Wedi ei bostio ar 22 Mehefin 2012
CAWCS-chwyldro

Y tim Prosiect Chwyldro Ffrengig

Lleoli Chwyldro: Bro, Llais, Cymuned 1780-1820

Aberystwyth 9–12 Gorffennaf 2012

Gwahoddir aelodau o’r wasg a’r cyhoedd sydd â diddordeb i Aberystwyth i gynhadledd ryngwladol fydd yn archwilio’r berthynas rhwng daearyddiaeth a newid yng nghyfnod y rhyfeloedd chwyldroadol (1780-1820).

Cynhelir y gynhadledd rhwng 9-12 Gorffennaf ac fe'i trefnir ar y cyd rhwng Prosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’ Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru; Canolfan Astudiaethau Rhamantaidd, Prifysgol Aberystwyth; ac Adran Saesneg, Prifysgol Abertawe.

Ymhlith y prif siaradwyr fydd yr Athro John Barrell (Caerefrog), yr Athro Claire Connolly (Cork), a’r Athro Nigel Leask (Glasgow). Bydd cyfanswm o 30 o siaradwyr a darlithwyr yn archwilio ymatebion lleol, rhanbarthol, cenedlaethol, Ewropeaidd a thraws-iwerydd i Oes y Chwyldroadau: sut daeth bwrlwm yr oes yn Ewrop i’r amlwg ar lawr gwlad? Sut oedd teyrngarwch cymdeithasol, crefyddol a gwleidyddol yn cael ei gyflyru gan dirweddau ac amgylcheddau penodol? Sut mae mesur teyrngarwch a gwrthsafiad mewn cymunedau gwledig, rhanbarthol, trefol a metropolitaidd penodol?

Bydd y gynhadledd yn ceisio gosod ‘hanes’ mewn lleoliadau penodol, gan fapio cysylltiadau ar draws Ewrop, môr Iwerydd, a’r byd ehangach. Bydd hefyd yn ceisio ystyried ffurfiau dramatig Rhamantiaeth, chwyldro ac adwaith yn y cyfnod hwn.

Traddodir y darlithoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg. I gael rhagor o wybodaeth cysyllter â (01970) 636543 canolfan@cymru.ac.uk / cawcs@wales.ac.uk

/DIWEDD

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori

In: Newyddion a Digwyddiadau