Wedi ei bostio ar 29 Tachwedd 2017
Ddydd Gwener caiff cyhoeddiad rhyngwladol pwysig ym maes Astudiaethau Celtaidd ei lansio ar Gampws Llanbedr Pont Steffan Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Mae Celtic Religions in The Roman Period: Personal, Local and Global gan yr Athro Cysylltiol Ralph Haeussler (PCYDDS) a'r Athro Anthony King (Prifysgol Caer-wynt) yn gynnyrch gweithdy rhyngwladol prosiect F.E.R.C.AN. (fontes epigraphici religionum Celticarum antiquarum) a gynhaliwyd yn Llanbedr Pont Steffan ym mis Hydref 2014.
Mae'r llyfr aml-awdur hwn yn dwyn ynghyd waith newydd, o ystod eang o ddisgyblaethau yn cynnwys crefydd cyn-Gristnogol yn nhaleithiau Celtaidd yr Ymerodraeth Rufeinig, o Brydain a Phortiwgal i'r Eidal a thalaith y Balcannau. Mae’r chwe phennod ar hugain yn y cyhoeddiad yn waith gan arbenigwyr rhyngwladol ym meysydd hanes hynafol, archeoleg, ieithyddiaeth, ac astudiaethau Celtaidd o bob rhan o Ewrop.
Wrth siarad am y gyfrol a’r achlysur lansio, dywedodd yr Athro Cysylltiol Ralph Haeussler, Uwch Ddarlithydd mewn hanes Rhufeinig ac archaeoleg ar gampws y brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan:
“Rydym wrth ein bodd gyda'r diddordeb sydd wedi’i ddangos yn ein cyhoeddiad newydd ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad lansio swyddogol y llyfr. Mae darganfyddiadau newydd ac ymchwil newydd yn golygu bod ein gwybodaeth am grefyddau cyn-Gristnogol ar draws taleithiau Celtaidd Rhufain yn tyfu ac yn esblygu'n gyson. Mae'r gwahanol benodau'n dangos sut roedd dealltwriaeth o grefyddau brodorol yr Oes Haearn yn cael eu diogelu ond hefyd yn newid o fewn yr Ymerodraeth Rufeinig a sut roedd y datblygiadau hyn yn effeithio ar hunaniaeth a mytholeg Cymru. Mae'r llyfr hwn yn dangos undod ac amrywiaeth y crefyddau Celtaidd, y rhanbarthau yn ogystal â’r cysyniadau pan-Geltaidd. Mae'r llyfr, gyda thros 500 o dudalennau, wedi'i darlunio'n llawn gyda llawer o fapiau lliw, cynlluniau safle, ffotograffau a lluniau o ddelweddau o Dduwiau Rhufeinig. Mae Tony a minnau'n falch iawn o'r cynnyrch terfynol a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y llyfr am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth.”
Ymhlith yr awduron sydd wedi cyfrannu mae’r Athro John Koch, Uwch Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a Chyfarwyddwr CSP-Cymru Cyf, cyhoeddwr y gyfrol. Ers ei sefydlu yn 1994, mae CSP-Cymru Cyf wedi cyhoeddi monograffau ysgolheigaidd, cyfresi o lyfrau, ac wedi golygu casgliadau o ysgrifau sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ieithoedd, gweithiau llenyddol a gwareiddiadau pobloedd Celtaidd cynnar. Ei nod, yn anad dim, yw hybu datblygiad Astudiaethau Celtaidd mewn cyd-destun cyfoes rhyngddisgyblaethol
Wrth sôn am bwysigrwydd y cyhoeddiad newydd hwn i faes Astudiaethau Celtaidd ac am ei gyfraniad ei hun, fel awdur a chyhoeddwr, dywedodd yr Athro Koch:
“Roedd cynnal trydydd gweithdy ar ddeg F.E.R.C.AN. yng Nghymru a chyhoeddi’r casgliad hwn o astudiaethau yn gyfle arbennig i ddod ag ymchwil blaengar ar gredoau Celtaidd cyn-Gristnogol ar draws Ewrop a straeon mytholegol canoloesol Iwerddon a Chymru at ei gilydd. Mae’r cyfraniadau gan Fernando Fernández a fi’n ailymweld â’r ‘Duw Pan-Geltaidd Lugus’, y mae ei enw’n cyfateb yn union â Lleu yn y Mabinogi a Lugh, sef brenin y duwiau yn y traddodiad Gwyddelig. Mae ymchwilwyr wedi bod yn ymwybodol ers tro o’r dystiolaeth gymharol hon, ond mae llawer mwy o gysegriadau i dduwiau Celtaidd yn wybyddus heddiw, a bellach ystyrir bod agweddau cynnar at fytholeg a chrefydd Geltaidd wedi dyddio. Felly mae’n bryd i ni gael dealltwriaeth newydd o ragflaenwyr Celtaidd y traddodiad Cymreig”
Cynhelir y lansiad ddydd Gwener, Rhagfyr 1 am 6:00yh yn Llyfrgell y Sylfaenwyr, Campws Llanbedr Pont Steffan. Bydd yr achlysur yn cynnwys sgyrsiau gan yr Athro John Koch, Ralph Haeussler, a Tony King.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y llyfr hwn yma: https://www.amazon.co.uk/Celtic-Religions-Roman-Period-Publications/dp/1891271253 neu https://astudiaethauceltaidd.cymru/siop/celtic-religions-in-the-roman-period