Wedi ei bostio ar 13 Mehefin 2017

Dr Rita Singer, Yr Athro Carol Tully, Dr Heather Williams, Scott Lloyd a Susan Fielding
Mae prosiect ymchwil Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, yr oedd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru’n bartner cydweithredol ynddo, wedi derbyn cyllid ar gyfer gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).
Dan arweiniad Prifysgol Bangor, bydd y prosiect dilynol yn cynnwys cydweithio rhwng Bangor a’r Ganolfan Uwchefrydiau, a gweithio ochr yn ochr â Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Croeso Cymru, a dechreuodd ar 1 Mehefin 2017.
Bydd cofnodion hanesyddol gan ymwelwyr o Ewrop i Gymru’r gorffennol ar gael i ymwelwyr Ewropeaidd y dyfodol, drwy wefan newydd sydd i’w chwblhau'r flwyddyn nesaf. Gyda thwristiaeth o Brydain ac Ewrop yn cyfrannu £5.1 biliwn y flwyddyn at economi Cymru, ffigwr y mae disgwyl iddo dyfu, bydd y wefan yn adnodd gwerthfawr i Visit Wales wrth hybu tirwedd, hanes a diwylliant Cymru.
Bydd y prosiect yn adeiladu ar waith a wnaed rhwng 2013 a 2017 ar brosiect Teithwyr Ewropeaidd i Gymru 1750-2010, oedd yn brosiect cydweithredol rhwng ymchwilwyr Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Abertawe a’r Ganolfan Uwchefrydiau a’u partneriaid yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn y sector amgueddfeydd yng Nghymru.
Yn fras, bwriad y prosiect gwreiddiol oedd archwilio ymatebion mewn ysgrifennu taith gan deithwyr Ewropeaidd i Gymru dros gyfnod o yn agos i dair canrif. Canfu’r ymchwil mai ymateb y teithwyr i Gymru oedd ei bod yn genedl ymylol, annisgwyl ar adegau, gyda diwylliant nad oedd ymwybyddiaeth ohono yn aml yn y cyd-destun Ewropeaidd.
Gwaith sylfaenol drwy gydol y prosiect oedd creu cronfa ddata agored chwiliadwy o gofnodion taith, sydd bellach yn cynnwys dros 400 o eitemau.
“Rydym wedi darganfod cofnodion nad astudiwyd o’r blaen, yn disgrifio sut y mae eraill wedi edrych ar Gymru,” meddai’r Athro Carol Tully o’r Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern, sy’n arwain y project. “Mae rhai o’r ysgrifau mewn dyddiaduron a llythyrau, ac mae’n debyg na fwriadwyd cyhoeddi’r rhan fwyaf. Mae ystod y pynciau sy’n cael eu trafod yn dangos diddordeb parhaus yng Nghymru. Nid twristiaid yn yr ystyr modern oedd pawb a fu’n teithio. Roedd ffoaduriaid yn eu plith ynghyd â phobol ar fusnes, ond maent i gyd yn rhoi golwg ar Gymru gan bobol o wledydd Ewrop,” meddai.
Nod y prosiect dilynol hwn yw manteisio ar y deunydd yn y gronfa ddata drwy weithio gyda Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Croeso Cymru i helpu i hyrwyddo Cymru, ei hanes, ei hetifeddiaeth ddiwylliannol a’i thirwedd yn ehangach i gynulleidfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol drwy ddatblygu gwefan ryngweithiol addas i ddyfeisiau symudol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr Almaeneg a Ffrangeg eu hiaith yn bennaf greu llwybrau taith thematig drwy Gymru a chyrchu deunydd hanesyddol, safle-benodol sy’n dehongli lleoliadau unigol o safbwynt teithwyr drwy amser - yn benodol y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Wrth siarad am y cyfleoedd y bydd y cyllid ychwanegol hwn yn eu creu, dywedodd Cyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau, yr Athro Dafydd Johnston:
“Rydym ni wrth ein bodd yn cael y cyfle hwn i ehangu ein cydweithio gyda Phrifysgol Bangor a thynnu ar arbenigedd y Comisiwn Brenhinol er mwyn defnyddio canfyddiadau ein hymchwil i gyfoethogi profiad teithwyr cyfoes o Gymru.”
Bydd y wefan ryngweithiol yn cyflwyno’r deunydd hanesyddol hwn sydd newydd ei ddarganfod i gynulleidfaoedd newydd cyffredinol mewn ffordd fydd yn cael effaith gadarnhaol ar weithgaredd twristaidd yng Nghymru, gan gyfrannu at un o elfennau pwysicaf economi Cymru a thargedu un o’r marchnadoedd allweddol a nodwyd gan Croeso Cymru. Bydd datblygu’r wefan yn manteisio ar ansawdd a maint annisgwyl y deunydd o’r ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg nad oedd yn wybyddus neu oedd wedi’i anghofio, a ddarganfuwyd yn ystod y prif ymchwil a gynhaliwyd ar gyfer prosiect Teithwyr Ewropeaidd i Gymru ac sydd bellach i’w weld yn y gronfa ddata.
Mae’r deunydd dan sylw’n cwmpasu cyfnod o newid mawr yn nhirwedd, diwylliant ac etifeddiaeth Cymru; bydd ymwelwyr modern yn gallu ‘profi’’r newidiadau hynny drwy lygaid eu rhagflaenwyr teithiol, a bydd yn cynnig golwg unigryw ar Gymru i genhedlaeth newydd o deithwyr o Ewrop, a hefyd ar y canfyddiad o Gymru dros amser i ymwelwyr o’r Deyrnas Unedig a rhannau eraill o’r byd. Bydd hyn yn bosibl drwy gasglu’r deunyddiau digidol sy’n bodoli a datblygu, gydag arbenigedd tîm y Comisiwn Brenhinol, adnoddau digidol newydd o ddeunydd gweledol hanesyddol, delweddu ac ailgreadau digidol, pandeithiau o ffotograffiaeth gigapixel a phrofiadau Rhithwir. Bydd deunyddiau y gellir eu lawrlwytho hefyd ar gael.
Am ragor o wybodaeth am y prosiect, a phori cronfa ddata ‘Cofnodion Taith, ewch i wefan y prosiect - http://etw.bangor.ac.uk/