Wedi ei bostio ar 19 Mehefin 2018
Ennill moron yn yr Eisteddfod Genedlaethol!
Mae gan Eiriadur Prifysgol Cymru bellach dros gant o Gyfeillion ac ar ddydd Sadwrn, 23 Mehefin bydd cyfle i’r Cyfeillion presennol a darpar Gyfeillion glywed am waith y Geiriadur yn y flwyddyn aeth heibio – a mwy!
Cadeirydd Cyfeillion Geiriadur Prifysgol Cymru yw Myrddin ap Dafydd ac yn ystod y cyfarfod eleni bydd yn tynnu ar ei brofiad fel sefydlydd a pherchennog Gwasg Carreg Gwalch. Cawn gyfeiriadau ganddo at eiriau cysylltiedig ag argraffu megis ‘llythyrwasg’, ‘monoteip’, ‘stereoteip’ ac yn ddifyr iawn cawn enghreifftiau ganddo o ‘ddiawl y wasg’.
‘Diawl y wasg’ yw’r bwch dihangol am gamgymeriadau argraffu ac fe fydd Myrddin yn nodi rhai digon difyr. Yn eu plith ‘Enillodd foron yr Eisteddfod Genedlaethol’ a
‘bob nos byddai’n dringo i ben y wraig fel y gallai fwynhau’r olygfa islaw’.
Ymhlith y siaradwyr eraill yn Y Drwm yn y Llyfrgell Genedlaethol bydd yr hanesydd Dr Elin Jones a fydd yn sicr o gyfeirio at ei chysylltiad â’r Wenhwyseg a’r hanesydd adnabyddus yr Athro Geraint Jenkins, cyn-gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.
Bydd cyfle gan fynychwyr hefyd i glywed am gynllun newydd i ddigido slipiau’r Geiriadur, GPC+. Enillodd y Geiriadur un o grantiau Cymraeg2050 Llywodraeth Cymru i sefydlu’r cynllun, a bydd cyfle i bawb, os dymunant, roi cynnig ar drawsgrifio slipiau mewn sesiwn hyfforddi ar ddiwedd y cyfarfod.
Croeso i holl ffrindiau presennol Y Geiriadur ac i bawb arall sydd â diddordeb yn ein gwaith. Bydd cyfle i ymaelodi fel Cyfaill i’r Geiriadur.
Lle? Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth am 14:00 ar 23 Mehefin, 2018
Am fwy o fanylion ynglŷn â threfnu cyfweliad neu am ddod yn gyfaill, cysyllter â Mary Williams – 01970 631014