Wedi ei bostio ar 1 Medi 2016
Honnodd yr hanesydd Gwyn Alf Williams fod “cenedl” gyntaf y Cymry wedi ymddangos gyda’r chwyldroadau Americanaidd a Ffrengig; a’r ddemocratiaeth Gymreig gyntaf hefyd.
Rhwng 6 a 29 Medi, cynhelir arddangosfa newydd gyffrous yn Oriel y Dyfodol yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, fydd yn dod â geiriau a delweddau ynghyd i archwilio hanes trafodaeth wleidyddol yng Nghymru o’r 1790au i’r presennol.
Cyd-drefnir arddangosfa Chwyldro/Revolution gan yr Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae’n tynnu ar waith y prosiect AHRC, Cymru a’r Chwyldro Ffrengig.
Mae’r arddangosfa yn edrych ar ymateb Cymru i'r chwyldro Ffrengig. Ceir sôn am ddigwyddiadau'r chwyldro trwy leisiau rhai o’r Cymry oedd yno, trafodaeth am y chwyldro yng Nghymru ac ymdrechion llywodraeth Prydain i geiso atal trafodaeth ar y syniadau radicalaidd. Mewn llythyrau, baledi, pamffledi a lluniau o archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae lleisiau o Gymru yn datgelu ymatebion amrywiol iawn i ddigwyddiadau yng Nghymru, Ewrop a gweddill y byd.
Edrychir ar rai o brif themau trafodaeth wleidyddol yng Nghymru yn ystod y ddwy ganrif sy'n dilyn gan ganolbwyntio ar ddemocratiaeth, hawliau merched, brwydrau llafur, rhyfel a heddwch, yr iaith Gymraeg, datganoli, ac ymateb Cymru i ddigwyddiadau rhyngwladol.
Trefnwyd dau ddigwyddiad i gyd-fynd â’r arddangosfa hon:
- Nos Fercher 7fed o Fedi bydd lansiad gyda sgwrs gan yr Athro Damian Walford Davies (Prifysgol Caerdydd)
- Nos Fercher 21ain Medi bydd digwyddiad a drefnir gan yr Archif Wleidyddol Gymreig gyda Elin Jones AC Ceredigion.
Meddai Rob Phillips, Archif Wleidyddol Gymreig a Chyd Guradur yr Arddangosfa:
“Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn drysorfa o ddeunydd sy'n gwneud hanes gwleidyddiaeth yng Nghymru yn fyw. Mae cymaint o bobl wedi cymryd rhan yn y stori hon trwy orymdeithio, protestio, streicio a phleidleisio i geisio newid y byd. Mae'r arddangosfa yn gyfle gwych i ni agor yr archifau i bawb weld y dadleuon a'r syniadau sydd wedi tanio ysbryd pobl Cymru dros y ddwy ganrif ddiwethaf.”
Meddai Mary Ann- Constantine, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd a chyd Guradur yr arddangosfa:
“Mor wych yw cael y cyfle hyn i osod deunydd adeg y Chwyldro Ffrengig mewn perspectif tymor hir; a chyfle amserol hefyd i weld Cymru ei hun mewn cyd-destun Ewropeaidd. Mae cyfoeth o straeon yn ymddangos yma mewn gair a llun: rhai yn llygad-dystion i ddigwyddiadau mawr, yn rhannu eu hymatebion trwy bregethau, areithiau a llyfrau; eraill, yn fwy personol, yn rhannu ofnau neu obeithion trwy lythyr, cerdd a chân. Diolch i archifau’r Llyfrgell, cawn weld syniadau gwleidyddol yn treiddio i fywydau pobl bob dydd.”
Gwybodaeth Bellach:
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â’r Tîm Cyfathrebu -cyfathrebu@cymru.ac.uk
#Chwyldro
#Revolution
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Sefydlwyd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru gan y Brifysgol yn 1985, ac mae’n ganolfan ymchwil benodol yn Aberystwyth sy’n cynnal prosiectau ymchwil cydweithredol i iaith, llenyddiaeth a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill.
Archif Wleidyddol Gymreig
Sefydlwyd yr Archif Wleidyddol Gymreig yn 1983 i gydlynu'r gwaith o gasglu tystiolaeth ddogfennol o bob math am wleidyddiaeth Cymru. Cesglir cofysgrifau a phapurau pleidiau gwleidyddol, gwleidyddion, mudiadau lled-wleidyddol, ymgyrchoedd a charfanau pwyso; taflenni, pamffledi, ac effemera printiedig eraill, posteri a ffotograffau, gwefannau a thapiau rhaglenni radio a theledu. Ni chyfyngir ei gweithgareddau i un adran o fewn y Llyfrgell.
Cymru a’r Chwyldro Ffrengig
Y Chwyldro Ffrengig ym 1789, o bosibl, oedd digwyddiad diffiniol y cyfnod Rhamantaidd yn Ewrop. Creodd anesmwythyd nid yn unig yn y drefn gymdeithasol ond yn iaith a meddylfryd y cyfnod yn ogystal. Roedd y prosiect 4 blynedd hwn a gyllidwyd gan yr AHRC yn edrych ar sut y daeth digwyddiadau pwysfawr 1789 a’u hadladd yn adnabyddus a sut y’i teimlwyd ar draws y wlad, ac a oedd yr ymateb yng Nghymru i’r Chwyldro yn wahanol i’r hyn a gafwyd yn yr Alban, Iwerddon neu Lundain. Dadansoddwyd amrywiaeth eang o destunau Cymraeg a Saesneg, o faledi i gerddi, ysgrifau, cyfnodolion, pregethau, caneuon a dychan, a’u golygu gan dîm y prosiect, gan lunio nifer o gyhoeddiadau ac adnoddau a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru.