Wedi ei bostio ar 18 Rhagfyr 2015
Mae’r Brifysgol yn falch i gyhoeddi bod cyfrol y mae gan aelod o’i staff, yr Athro John Koch, Uwch Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru, gyfraniad ynddi wedi’i gosod ar y rhestr fer am wobr yn wythfed Gwobrau Blynyddol Current Archaeology.
Current Archaeology yw’r prif gylchgrawn sy’n trafod archeoleg Prydeinig ac mae’n cylchredeg ers deugain mlynedd. Mae Gwobrau Current Archaeology yn dathlu prosiectau a chyhoeddiadau a fu ar dudalennau’r cylchgrawn yn ystod y flwyddyn flaenorol, y barnwyd gan y bobl iddynt wneud cyfraniadau rhagorol i faes archaeoleg.
Yr Athro Koch ysgrifennodd y bennod gyntaf yn Celtic Art in Europe: Making Connections, sydd ymhlith yr enwebiadau am Lyfr y Flwyddyn.
Yn y casgliad sylweddol hwn o 37 o bapurau, a gyhoeddwyd i anrhydeddu pen-blwydd yr Athro Vincent Megaw o Brifysgol Glasgow a Phrifysgol Flinders yn Ne Awstralia yn 80 oed, ceir cyfraniadau gan grŵp gwirioneddol ryngwladol o arbenigwyr blaenllaw ym maes celf Geltaidd ac astudiaethau Celtaidd. Gan fynd i’r afael â materion dadleuol fel tarddiad y Celtiaid, ac ystyried a yw ein golwg a’n meddylfryd artistig modern ni’n rhwystro ein dehongliad o gelf hynafol, mae’r papurau’n olrhain hanes yr ymdrechion i ddeall celf Geltaidd gan ddadlau dros agweddau newydd yn y trafodaethau sy’n rhychwantu Ewrop Gyfandirol gyfan ac Ynysoedd Prydain.
Teitl papur agoriadol yr Athro Koch yw Once again, Herodotus, the Κελτοί, the source of the Danube, and the Pillars of Hercules.Yn ei bapur, mae’r Athro Koch yn trafod y ddau gyfeiriad enwog at Κελτοί (Celtiaid) yn Hanesion Herodotus (y gwaith yr ystyrir yn sylfaen ym maes hanes hanes mewn llenyddiaeth Orllewinol) a sut mae’r ddau gyfeiriad yn eu disgrifio’n preswylio mewn dau leoliad pell iawn oddi wrth ei gilydd. Mae’n cynnig er bod y cysyniad o Geltiaid wedi’i archwilio’n fwy beirniadol dros y blynyddoedd diweddar, y gellir derbyn bod y cyfeiriadau hyn yn ffeithiol gywir yng ngoleuni ymchwil newydd. Mewn gwirionedd, roedd Celtiaid yn bodoli yn ystod y bumed ganrif CC yn y parth Alpaidd ac ar arfordir yr Iwerydd yn ne orllewin Ewrop.
Wrth drafod y cyhoeddiad fel cyfanwaith, dywedodd yr Athro Koch:
“Yn ogystal â bod yn gasgliad pwysig ar gyfer astudiaethau Celtaidd a hanes celf, mae Celtic Art in Europe yn anrhydeddu’r ysgolhaig celf Geltaidd blaenllaw, Vincent Megaw, ar ei ben-blwydd yn 80 oed. Roedd Vincent a’r ddiweddar Ruth Megaw yn gefnogol iawn i’r Ganolfan Uwchefrydiau dros y blynyddoedd. Cafwyd cyfraniadau pwysig a darluniau unigryw ganddynt yn y gwyddoniadur pum cyfrol Celtic Culture a gyhoeddwyd yn 2006, yr oeddwn i’n olygydd cyffredinol arno. Pe bai’r cyhoeddiad hwn yn ennill, byddai’n ffordd wych i anrhydeddu ysgolhaig rhagorol a chyfaill i astudiaethau Celtaidd a Phrifysgol Cymru.”
Y cyhoedd sy’n dewis enillydd pob categori, gyda’r bleidlais bellach ar agor ar-lein. Bydd y bleidlais yn cau ar 8 Chwefror 2016, gyda’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn y seremoni wobrwyo arbennig ar 26 Chwefror yng Nghynhadledd Current Archaeology Live! 2016.
Gallwch fwrw pleidlais drwy ymweld â www.archaeology.co.uk/vote
Celtic Art in Europe: Making Connections (Oxbow Books, 2014)
Christopher Gosden (Golygydd); Sally Crawford (Golygydd); Katharina Ulmschneider (Golygydd)
£60.00 | HB | ISBN: 9781782976554 | 400p, H280 x W216 (mm) lluniau d/g, 32pp lluniau lliw